Sefydlwyd gŵyl lyfrau arbennig i'r byd cyhoeddi Cymraeg gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru yn 2006. Cynhelir yr ŵyl bellach yn flynyddol ar benwythnos Calan Mai, gyda chydweithrediad siop lyfrau leol:
- Calan Mai 2006 - Galeri, Caernarfon gyda Palas Print
- Calan Mai 2007 - Galeri, Caernarfon gyda Palas Print
- Calan Mai 2008 - Canolfan y Celfyddydau, Crymyrch gyda Siop Sian
- Calan Mai 2009 - Canolfan y Morlan, Aberystwyth
Gŵyl hyrwyddo llyfrau Cymraeg, gyda'r pwyslais ar deitlau newydd a'u gwerthu yw Bedwen Lyfrau. Cynhelir hi yn yr ysbwyd a welir mewn gwyliau tebyg yn Barcelona a gwlad y Basg - ymfalchiwch yn eich awduron a'ch cyhoeddwyr, cefnogwch nhw drwy brynu a mwynhau eu gwaith, a'u rhoi yn anrhegion i eraill.
Mae'r elfin gymdeithasol cyn bwysiced â'r elfin fasnachol wrth gwrs - ymhob gŵyl ceir sgyrsiau a thrafodaethau difyr yng nghwmni awduron, perfformiadau, sesiynnau holi, cystadlaethau, staeon a gweithdai i blant. Mae'n ŵyl i'r teulu cyfan a chafwyd sawl eitem gofiadwy - o noson thema rygbi i bybcrol llenyddol.
Rhagor o wybodaeth
