Cyfres o lyfrynnau lliwgar am Moli a'i brawd a'i chwaer fach ar gyfer plant sydd yn dechrau darllen Cymraeg - addas i iaith gyntaf a dysgwyr.
Mae'r gyfres yn gymorth i athrawon a rhieni ac yn llenwi'r bwlch mawr yn y ddarpariaeth ar gyfer y cyfnod allweddol hwn.
Mae tair lefel i'r llyfrynnau a deg llyfryn ymhob gradd:
- Lefel A: Dosbarth derbyn - yn cyflwyno geiriau a berfau syml
- Lefel B: Tua Blwyddyn 1 - cyflwyno sgwrs, dyddiau'r wythnos, themau
- Lefel C: Tua Blwyddyn 1-2 - Mwy o stori, berfau, ailadrodd patrymau