Cyfres y Grefft
Llyfrau | Books
-
Cwrw Cymru
Hanes bragu medd, cwrw a seidr, a distyllu wisgi yng Nghymru. Ffotograffau du-a-gwyn, a 32 tudalen o ffotograffau lliw.
£5.50
-
Caws Cymru
Cyfrol yn bwrw golwg ar gynhyrchu caws yng Nghymru gan sôn am yr hufenfeydd, y dirywiad, a'r adfywiad presennol.
£5.50
-
Cwrwgl, Y
Addasiad a diweddariad o 'The Coracle'. Hanes y cwrwgl a'i gynhyrchwyr; manylion y grefft a lleoedd/digwyddiadau, sy'n arddangos cyryglau.
£7.00
-
Llwyau Traddodiadol
Disgrifiad a hanes y grefft o naddu llwyau gan un fu'n gweithio ac arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Werin, Sain Ffagan am ran helaeth o'i yrfa.
£5.50
-
Crefftwyr Llechi
Crynodeb o grefft y chwarelwyr llechi traddodiadol a gwybodaeth am y defnydd cyfoes a wneir o lechfaen a ble mae crefftwyr heddiw i'w gweld.
£5.50
-
Dre-Fach Felindre a'r Diwydiant Gwlân
Cyfrol ddarluniadol hynod ddiddorol yn olrhain hanes llewyrchus y diwydiant gwlân yn nyffryn Teifi yn ystod y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, yn arbennig yn ardal Dre-fach Felindre.
£5.50
-
Melinau Gwlân - Crynodeb o Hanes y Diwydiant Gwlân yng Nghymru
Cyfrol ddarluniadol hynod ddifyr yn olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru o'r Oesoedd Canol hyd flynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif, gan arbenigwr ym maes astudiaethau crefftau gwledig.
£5.50






