[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Llyfrau Ffeithiol / Darllen Difyr

Llyfrau | Books

  • Llythyrau'r Wladfa 1945-2010

    Llythyrau

    Llythyrau'r Wladfa 1945-2010 gol: Mari Emlyn

    £9.95

  • Wil Sam - Y Dyn Theatr

    Wil Sam - Y Dyn Theatr

    Bwriad y gyfrol deyrnged hon i W. S. Jones, neu Wil Sam, yw dathlu ei gyfraniad aruthrol i'r ddrama, y theatr, i deledu ac i ffilm, yn wir i ddatblygiad y diwylliant modern yng Nghymru.

    £12.00

  • Prynu Lein Ddillad

    Prynu Lein Ddillad

    Pigion o ddyddiaduron Hafina Clwyd. Yn y gyfrol hon, ceir tipyn o hynt a helynt y blynyddoedd 1980-92 - dychwelyd i Gymru wedi cyfnod hir yn Llundain hyd at dranc Y Faner.

    £8.50

  • Dyddiadur America a Phethau Eraill

    Dyddiadur America a Phethau Eraill

    Ymhlith achlysuron mwyaf arwyddocaol yr unfed ganrif ar hugain hyd yn hyn oedd yr ymosodiadau ar y Tyrau Marchnad ar Ynys Manhattan ar 11 Medi 2001 - "9/11" - ac etholiad Barack Obama fel arlywydd croenddu cyntaf yr Unol Daleithiau yn Nhachwedd 2008.

    £5.50

  • Lloffion Llyn

    Lloffion Llyn

    Detholiad o ryddiaith, barddoniaeth a cherddoriaeth o hen bapurau newydd a chyfnodolion.

    £8.50

  • Michael D. Jones a'i Wladfa Gymreig

    Michael D. Jones a

    Cyfrol sy'n dathlu bywyd sylfaenydd y Wladfa a'r cenedlaetholwr, Michael D. Jones. Mae epig sefydlu'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn 1865 yn un o'r penodau enwocaf yn hanes y Gymru fodern.

    £9.50

  • Llythyrau'r Wladfa 1865-1945

    Llythyrau

    Casgliad o lythyrau a anfonwyd gan unigolion yng Nghymru ac ym Mhatagonia. Cawn gipolwg ar brofiadau rhyfeddol a theimladau dirdynnol y dynion a'r merched a fentrodd i Batagonia, ynghyd â hynt a helynt rhai o'u disgynyddion.

    £9.95

  • Cymru ar Blât/Wales on a Plate

    Cymru ar Blât/Wales on a Plate

    Llyfr o ryseitiau Cymreig. Ceir yma ddeuddeg adran yn cyflwyno'r traddodiadol a'r cyfoes, ond y cyfan yn tarddu o gynnyrch tir a dyfroedd Cymru; gyda chyflwyniad byr i bob adran yn ymhyfrydu yn ein diwylliant bwyd cynhenid. A book of Welsh recipes. It consists of twelve sections, presenting traditional and contemporary dishes, with all produce deriving from Welsh land and waters. It also has a short introduction to each section, extolling our food culture.

    £8.50

  • Cymry Rhyfel Cartref America / Welsh and the American Civil War, The (DVD - Unol Daleithiau America)

    Cymry Rhyfel Cartref America / Welsh and the American Civil War, The (DVD - Unol Daleithiau America)

    DVD 150 munud o hyd yn dangos y gyfres deledu a'r llyfr uchelgeisiol, Llwch Cenhedloedd, sy'n cofnodi hanes garw yr Americanwyr Cymraeg eu hiaith a ymladdodd yn Rhyfel Cartref America, 1861-65, wedi ei seilio ar ymchwil trylwyr i lythyrau'r milwyr Cymreig a ffynonellau llawysgrifol eraill y cyfnod.

    £10.00 Ar Sêl! | On Sale!

    Prîs Gwreiddiol | R.R.P.: £15.65

  • Capeli Môn

    Capeli Môn

    Yn y gyfrol hon ceir rhestr gynhwysfawr o gapeli Ynys Môn ac ychydig o'u hanes. Ceir manylion cefndirol ynghylch pensaernïaeth y capeli - roedd y capeli cyntaf yn adeiladau diaddurn syml, ond fel roedd yr enwadau yn magu nerth a hyder roedd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn pensaernïaeth llawer mwy mawreddog yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

    £7.50