Nofelau a Straeon
Llyfrau | Books
-
Haf o Hyd
Mae Trystan a'i gyfaill newydd, Daniel, ill dau wedi cwblhau eu harholiadau ysgol ac mae haf crasboeth 1976 yn ymestyn o'u blaen yn llawn posibiliadau cyffrous.
£7.50
-
Bachgen Mewn Pyjamas, Y
Addasiad o'r ffilm 'The Boy in the Striped Pyjamas'. Stori ryfeddol am ddarn o hanes na ddylid byth ei anghofio. Llyfr cofiadwy, pwysig am gyfeillgarwch ac am greulondeb rhyfel.
£6.95
-
Roma - Hen Wlad fy Nhad
Cyflwyniad lliwgar i Rufain, wrth i'r awdur dreulio blwyddyn yno yn cryfhau'r berthynas gyda'i gefndryd Eidalaidd, teulu ei dad, yn cynnwys stōr o wybodaeth a sylwadau hynod dreiddgar am hanes a gwleidyddiaeth, iaith, diwylliant a chwaraeon yr Eidal.
£1.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£6.50 -
Rhagom
Nofel afaelgar yn portreadu effeithiau dirdynnol rhyfel ar fywydau dwy genhedlaeth o'r un teulu, sef brawd nain yr awdures a oroesodd frwydr waedlyd coedwig Mamets cyn cael ei ladd ym mrwydr gyntaf Gasa yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a'i hewythr a wasanaethodd yn y Dwyrain Canol yn yr Ail Ryfel Byd.
£2.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£6.00 -
Nes at Baradwys, Yn
Casgliad amrywiol o ddeuddeg stori fer gyfoes a wobrwywyd mewn cystadleuaeth ar raglen Y Celfyddydau ar Radio Cymru, yn cynnwys nodiadau cefndirol byr gan yr awduron am y dylanwadau arnynt.
£1.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£6.50 -
Ar Blaned Arall
Nofel ffantasi am anturiaethau gwyllt dau chwaraewr rygbi o Gaernarfon sydd wedi meddwi ar gwrw a rhyw wrth iddynt ymweld ā phlanet newydd Delta Equinox lle maent yn peri anhrefn mawr gyda'u hymddygiad afreolus.
£1.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£4.95 -
Glas
Nofel yn cynnwys stori afaelgar. Yn gefndir i'r stori garu ddifyr mae mynyddoedd yr Andes, sychder y paith a'r cysylltiadau rhyfedd rhwng Cymru a Phatagonia. Bydd Glas yn eich atgoffa bod rhamant yn dal yn fyw ac yn iach, ac yn eich swyno hefyd.
£2.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£6.50 -
Hen Friwiau
Nofel ddirgelwch am newyddiadurwraig ifanc yn ceisio datrys dirgelwch marwolaeth merch ifanc chwarter canrif ynghynt, gan ddadorchuddio llawer o gyfrinachau personol tywyll yn cynnwys cynllwynio, llwgrwobrwyo a cham-drin rhywiol.
£1.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£6.50 -
Trōns
Nofel ddirgelwch ddoniol a byrlymus am aelod o'r heddlu sydd wedi'i atal o'i waith yn ceisio datrys dirgelwch llofruddiaeth trwy ddulliau anghonfensiynol, yn cynnwys iaith gref a delweddau erotig.
£1.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£4.95 -
Radio Rafins
Nofel hwyliog a dychanol arall am Rhys Huws, cyn-gyfarwyddwr cwmni cysylltiadau cyhoeddus a'i bartner busnes sydd ynghanol helyntion dyddiol wrth fethu cadw cydbwysedd rhwng eu gwaith ar orsaf radio lleol, eu sesiynau yfed trwm a'u campau rhywiol gwyllt. Dilyniant i Pī-Ār.
£1.00 Ar Sêl! | On Sale!
Prīs Gwreiddiol | R.R.P.:
£4.95









