Pigion 2000
Llyfrau | Books
-
Waldo - Un Funud Fach... (Pigion 2000)
Cyfres newydd yn amcanu at gyflwyno detholion o lenyddiaeth Gymraeg o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Yn y gyfrol hon, ceir detholiad o weithiau'r bardd o Sir Benfro, yn cynnig golwg ar y llon a'r lleddf yn ei gymeriad fel y'u hamlygir yn ei farddoniaeth.
£1.99
-
Parsel Nadolig - Dewis o Bytiau Difyr (Pigion 2000)
Cyfres newydd yn amcanu at gyflwyno detholion o lenyddiaeth Gymraeg o'r cyfnod cynharaf hyd heddiw.
£1.99
-
Gwlad! Gwlad! - Pytiau Difyr am Gymru (Pigion 2000)
Detholiad difyr o bytiau amrywiol am Gymru, yn cynnwys argraffiadau llenorion ar hyd y canrifoedd am y wlad, ei hiaith a'i phobl, mewn barddoniaeth a rhyddiaith.
£1.99
-
Dic Jones - Awr Miwsig ar y Meysydd (Pigion 2000)
Detholiad hyfryd o farddoniaeth gyfoethog Dic Jones, yn cynnwys cerddi caeth a rhydd ac iddynt naws llon a lleddf.
£1.99
-
Eigra Lewis Roberts - Rhoi'r Byd yn ei Le (Pigion 2000)
Detholiad o weithiau rhyddiaith Eigra Lewis Roberts, meistres ar ddeialog gredadwy a chyfleu perthynas pobl â'i gilydd, yn cynnwys ysgrifau byrion ynghyd â straeon y gyfres deledu 'Minafon'.
£1.99
-
Daniel Owen - 'Nid i'r Doeth a'r Deallus...' (Pigion 2000)
Detholiad amrywiol o nofelau Daniel Owen, sef Rhys Lewis, Enoc Huws, Gwen Tomos a Y Dreflan.
£1.99
-
Deg Marc! - Pigion Ymrysonau'r Babell Lên 1979-1998 (Pigion 2000)
Dim llun ar gael
No image availableCasgliad amrywiol o 177 o englynion dwys a digri a gyfansoddwyd yn Ymrysonau'r Babell Lên yn ystod Eisteddfodau Cenedlaethol 1979-98.
£1.99
-
Kate Roberts - Straeon y Lôn Wen (Pigion 2000)
Detholiad amrywiol o weithiau 'Brenhines ein Llên', yn cynnwys dyfyniadau o 15 darn o'i gwaith, yn straeon, erthyglau a phytiau hunangofiannol yn adlewyrchu caledi ei magwraeth ynghyd ag ambell fflach o hiwmor.
£1.99
-
Islwyn Ffowc Elis - 'Lleoedd Fel Lleifior' (Pigion 2000)
Casgliad difyr o 11 o weithiau rhyddiaith un o awduron Cymraeg mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif, yn cynnwys dyfyniadau o'i ysgrifau a phenodau o'i nofelau.
£1.99
-
Cynan - 'Adlais o'r Hen Wrthryfel' (Pigion 2000)
Detholiad amrywiol o dros ugain o gyfansoddiadau Cynan (Albert Evans-Jones, 1895-1970), yn adlewyrchu'r llawenydd a'r ing yng nghanu un o feirdd Cymraeg mwyaf poblogaidd yr 20fed ganrif.
£1.99








