Cysylltiad
Mae gan y wasg gysylltiad agos gydag ysgolion ers ei blynyddoedd cynnar. Cynlluniwyd nifer o’r cyfresi llyfrau plant yn sgîl anogaeth athrawon, lansiwyd nifer o’r llyfrau mewn ysgolion a bydd Myrddin yn defnyddio’r cyfrolau fel sail i weithdai creadigol mewn dosbarthiadau ledled Cymru.
Trowch at ein gwahanol adrannau:
- i ddewis llyfrau darllen i bob oedran
- i ddewis gwerslyfrau athrawon
- i ddewis cyfeirlyfrau (e.e. adar, blodau, natur, hanes lleol, hanes Cymru)
Mae’r rhain i gyd ar gael yn eich siop lyfrau leol.
Bargeinion arbennig
Yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, bydd bargeinion ar gael ar stondin y wasg ar y Maes. Mae’r rhain yn cael eu cynnig i ysgolion yn ogystal – gall cynrychiolydd yr ysgol gasglu bocsaid o fargeinion ynghyd â gofyn i’r wasg anfonebu’r ysgol yn ddiweddarach. Byddai o gymorth pe bai cynrychiolydd yr ysgol yn dod â “Rhif Archeb” i’r stondin, ar gyfer y gwaith papur.
Os am dderbyn gwybodaeth uniongyrchol am ein llyfrau bargen a'r cynigion arbennig sydd gennym ar gael i ysgolion, cliciwch yma er mwyn rhoi enw eich ysgol ar ein rhestr.