[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Achub Anifail: Erlid Eliffant

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845275174
  • J. Burchett, S. Vogler
  • Cyhoeddi Mai 2015
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis
  • Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 144 tudalen
Mae'r efeilliaid Ben a Sara'n mynd i'r safana lle mae poblogaeth yr eliffantod Affricanaidd dan fygythiad. Ond, mae rhai ymwelwyr yn talu symiau mawr o arian er mwyn erlid anifeiliaid o ran sbort. Tra bo'r ymwelwyr mileinig yn llygadu'r eliffantod gan gynnwys mam a'i baban ifanc, mae Ben a Sara ar dân i'w hachub! Addasiad Cymraeg o Safari Survival gan Siân Lewis.

Gwybodaeth Bellach:
Yn dilyn llwyddiant Achub Anifail – Targed Teigr dyma’r ail gyfrol mewn cyfres newydd sbon o straeon antur cyffrous am frawd a chwaer sy’n gwneud eu gorau glas i warchod anifeiliaid prin sydd dan fygythiad ledled y byd.
Yn cynnwys lluniau du-a-gwyn bywiog.