[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Alys Drws Nesaf

Product Details

  • ISBN: 9781845276157
  • Judi Curtin
  • Cyhoeddi Mai 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x129 mm, 172 tudalen
Cyfres newydd! Y llyfr cyntaf yng nghyfres Alys a Megan! Mae Megan, sy'n ddeuddeg oed, yn ei chael yn anodd dygymod â bywyd yn yr ysgol ac yn ei chartref heb gefnogaeth ei ffrind gorau, Alys, sydd wedi symud i fyw i'r ddinas. Addasiad Cymraeg o Alice Next Door gan Eleri Huws.

Megan druan! Nid yn unig mae hi'n gorfod dioddef byw gyda'r rhieni lleiaf cŵl yn Aberystwyth, a'i chwaer fach, Seren, sy'n cael sylw gan bawb – ond nawr mae Alys, ei ffrind gorau, wedi symud i fyw i Gaerdydd. Rhaid i Megan fynd yn ôl i'r ysgol a wynebu Mirain Mai, ei gelyn pennaf, ar ei phen ei hun. Mae Alys yn meddwl am gynllun cyfrwys allai ddod â Megan a hithau'n ôl at ei gilydd. Ond a wnaiff eu cyfrinach weithio, tybed?