[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Alys Eto

Product Details

  • ISBN: 9781845276317
  • Judi Curtin
  • Cyhoeddi Hydref 2017 
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x130 mm
Cyfres newydd! Yr ail lyfr yng nghyfres Alys a Megan! Mae ffrindiau gorau ANGEN bod gyda'i gilydd. Addasiad Cymraeg Eleri Huws o Alice Again gan Judi Curtin.

Gwybodaeth Bellach:
Mae Megan yn edrych ’mlaen at fynd i aros gydag Alys, ei ffrind gorau, yng Nghaerdydd, gan freuddwydio am wyliau bach tawel yn mynd i’r sinema, siopa ac ymlacio. Ond dyw pethau ddim mor hawdd â hynny! Yn ôl Alys, mae gan ei mam gariad newydd ac mae hi’n benderfynol o gael gwared ag e. Sut? Wel, trwy fod y ferch fwyaf atgas welodd neb erioed!
Pa mor ddrwg all Alys fod? Ac a fydd Megan yn gallu ei dioddef?