[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Am y Tywydd

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £6.00

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £12.00






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845271916
  • Awdur: Twm Elias
  • Cyhoeddi Tachwedd 2008
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Casgliad o ddywediadau a rhigymau am y tywydd. Dros y canrifoedd, drwy sylwgarwch a ffraethineb, daeth miloedd o 'ddywediadau tywydd' yn elfen gref o'n hiaith lafar. Ers blynyddoedd, bu Twm Elias yn eu casglu o bob cwr o Gymru gan gyhoeddi dros 70 o erthyglau arnynt yn Llafar Gwlad. Am y tro cyntaf, casglwyd y cyfan rhwng cloriau un gyfrol.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Twm Elias yn gweithio ym Mhlas Tan y Bwlch fel darlithydd. Clywir ei lais yn aml ar Radio Cymru, yn arbennig ei gyfraniadau i'r rhaglen 'Galwad Cynnar' ar foreau Sadwrn. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar lên gwerin ac mae'n olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn.

Gwybodaeth Bellach:
Oes ganddon ni obsesiwn gyda siarad am y tywydd yng Nghymru? Mae'n tywydd mor gyfnewidiol nes ei fod yn angor hwylus i bob sgwrs ffôn a phen stryd. Does dim dwywaith chwaith ei bod hi'n bwysig inni wybod sut dywydd wneith hi drannoeth yn aml. Mae'r rhagolygon tywydd yn elfen hanfodol o unrhyw wasanaeth cyfathrebu. Dros y canrifoedd, drwy sylwgarwch a ffraethineb, daeth miloedd o 'ddywediadau tywydd' yn elfen gref o’n hiaith lafar.

Mae'r dywediadau hyn yn lleol yn aml. Ers blynyddoedd, bu awdur y gyfrol hon yn eu casglu o bob cwr o Gymru gan gyhoeddi dros ddeg a thrigain o erthyglau arnynt yn y cylchgrawn Llafar Gwlad. Mae arwyddion yn ôl y misoedd a'r tymhorau; arwyddion o fyd natur a thrwy sylwi ar yr haul, y sêr a'r lleuad; arwyddion yn codi o sylwi ar y môr, y gwynt a natur cymylau. Mae rhai yn hen iawn, eraill yn codi o sylwi ar elfennau yn y byd modern. Mae gennym eirfa gyfoethog am y tywydd, hefyd rhigymau a phenillion.

Am y tro cyntaf, casglwyd y cyfan rhwng cloriau un gyfrol. Digon o destun trafod am genedlaethau!