Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9780863819995
- Cyhoeddi Gorffennaf 2005
- Golygwyd gan John Davies
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 80 tudalen
Casgliad o ddarlithoedd a draddodwyd yn Fforwm Hanes Cymru; trafodir y ffigwr hanesyddol, a nifer o agweddau ar genedligrwydd a chenedlaetholdeb Cymreig; ceir cyfraniadau gan Nia Watkin Powell, Ieuan Wyn, Enid Pierce Roberts, A. D. Carr, a Daniel Mullins.
Adolygiad Gwales
Hanes cenedlaetholgar, a hanes gafaelgar. Mae’r teitl yn arwydd o’r cyntaf, ac mae’n rhaid diolch i’r cyfranwyr am yr ail. Cynnwys y gyfrol hon yw pum darlith a draddodwyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol dan nawdd Fforwm Hanes Cymru, corff a sefydlwyd i ddod â gwahanol gymdeithasau hanes Cymru at ei gilydd. Gyda phedair pennod ganoloesol ac un ar y cyfnod modern cynnar, dyma gyfrol sy’n mynd at wreiddiau hanes a hunaniaeth y genedl.
Mae dwy o’r penodau’n ymwneud â’r angen i ddeall pwysigrwydd hanesyddol lleoliadau daearyddol. Yn ‘Trigfan y Trisant’ mae Dr Enid Pierce Roberts yn edrych ar ddau safle cyfagos, sef eglwys Meifod a lleoliad honedig llys tywysogion Powys ym Mathrafal. Ond ymddengys mai creadigaeth gymharol ddiweddar (o gymharu, hynny yw, â hynafiaeth Aberffraw a Dinefwr) yw statws Mathrafal fel prif lys Powys. Eglwys Meifod, mae’n debyg, yw’r allwedd i ddeall hanes y rhan bwysig hon o Bowys.
Yn ‘Abergarthcelyn a Llythyrau 1282’ cawn gan Ieuan Wyn ddisgrifiad o lys tywysogion Gwynedd yn Abergarthcelyn (sef Abergwyngregyn heddiw). Cawn hefyd ddisgrifiad o ddigwyddiadau tyngedfennol hydref 1282 pan ymwelodd yr Archesgob John Pecham â’r fan i gyflwyno amodau heddwch na allai Llywelyn ap Gruffudd eu derbyn. Ceir cyfieithiadau Cymraeg hwylus o’r llythyrau a anfonodd Llywelyn a rhai o’i gynghorwyr at Pecham, ynghyd ag ymateb Dafydd ap Gruffudd i gynigion yr Archesgob. Gyda llythyrau Llywelyn fe ddown yn agos iawn at eiriau’r Llyw Olaf ei hun, a phrin fod dogfennau mwy trawiadol i’w cael yn holl hanes Cymru.
Wrth drafod ‘Yr Hen Ffydd yng Ngogledd Sir Fynwy’ mae’r Gwir Barchedig Daniel Mullins yn tynnu sylw at hanes na chlywyd digon amdano yn y gorffennol, sef goroesiad y ffydd Gatholig yn ne-ddwyrain Cymru ar ôl y Diwygiad Protestannaidd. Cymraeg oedd prif iaith y gymuned hon o Gatholigion Cymreig, ac mae hanes rhyfeddol eu hymlyniad wrth eu crefydd (yn wyneb peryglon enbyd ar adegau) yn rhywbeth y dylai’r Gymru Gymraeg wybod mwy amdano.
Daw hynny â ni at y ddau Owain. Cyflwyniad i yrfa ryfeddol Owain Lawgoch (m. 1378), gor-nai Llywelyn ap Gruffudd, a geir gan yr Athro A. D. Carr yn ei bennod ‘Owain Lawgoch: Marchog Ffrainc a Thywysog Cymru’. Yn annisgwyl braidd i un a oedd yn ymgnawdoliad o’r gobaith am adfer tywysogaeth Gwynedd, mae’n debyg i Owain fwynhau magwraeth braf yn Surrey cyn mynd yn filwr proffesiynol yng ngwasanaeth brenin Ffrainc. Ond yr un mor drawiadol â’i yrfa hynod oedd parodrwydd rhai unigolion blaenllaw yng Nghymru i’w gefnogi ac i geisio ail-greu'r dywysogaeth goll.
Owain Glyndŵr, wrth gwrs, yw’r Owain arall. Mae’n duedd gref ymhlith haneswyr i amau nad oedd cenedlaetholdeb yn gysyniad pwysig yn yr Oesoedd Canol, a chan hynny nad cenedlaetholdeb oedd yr elfen bwysicaf yn rhyfel Glyndŵr. Dadleuir bod ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol eraill, a hefyd gymeriad unigolyn rhyfeddol, sef Owain ei hun, yn fwy perthnasol. Ond yn ‘Cenedligrwydd, Cenedlaetholdeb ac Owain Glyndŵr’ mae Nia Watkin Powell yn dadlau’n ddeheuig fod teimladau pendant o genedlaetholdeb wedi cyfrannu at y rhyfel a ysgubodd drwy Gymru yn y blynyddoedd yn dilyn 1400. Ac yn wir, gellid dweud bod y gyfrol hon ar ei hyd yn dangos bod modd mynegi’r teimladau hynny mewn dull croyw, disgybledig a diddorol wrth fynd ati i lunio hanes y genedl.
Dylan Foster Evans
