[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Antur i'r Eithaf - Atgofion Byw ar y Dibyn

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845275129
  • Eric Jones
  • Cyhoeddi Tachwedd 2014
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Hunangofiant yr anturiaethwr a'r dringwr Eric Jones.

Gwybodaeth Bellach:
• Glywsoch chi hanes y mab fferm o Ddyffryn Clwyd a ddringodd rai o fynyddoedd uchaf y byd, a hynny ar ben ei hun
• Glywsoch chi hanes yr hogyn o Frynsaithmarchog a neidiodd oddi ar ben y rhaeadr uchaf yn y byd, a neidiodd i mewn i un o'r ogofâu dyfnaf, oddi ar bontydd, clogwyni ac adeiladau?
• Na, nid straeon celwydd golau ydi’r rhain, ond campau a gyflawnwyd gan Eric Jones, y dringwr byd-enwog sydd erbyn hyn yn rhedeg caffi yn Nhremadog. Mae'r hanesion i gyd, yn ogystal â chofnod o’i fywyd yn y gyfrol hon. Cewch bleser mawr wrth ddarllen am ei anturiaethau ac am fywyd un a fu'n byw ar y dibyn yn llythrennol, wrth iddo deithio'r byd yn ymateb i wahanol fathau o her
• A'r hyn sy'n anhygoel am ŵr sy'n nesu at bedwar ugain oed yw ei fod yn dal wrthi'n dringo a neidio!