[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Anturio ar Ynys Môn (Cyfres Anturio)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863818639
  • Awdur: Dafydd Meirion
  • Cyhoeddi Hydref 2003
  • Darluniwyd gan Dylan Williams
  • Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2.
  • Fformat: Clawr Meddal, 123x182 mm, 84 tudalen

Casgliad o 10 stori antur gyffrous wedi'u cyflwyno gyda thaith gerdded o gwmpas yr ardal lle mae'r stori wedi'i lleoli, gyda helfa drysor i'w gwneud wrth fynd ar y daith gerdded, gan gynnwys yr atebion.

Adolygiad Gwales
Llyfr gwahanol iawn a geir yma o Wasg Carreg Gwalch, llyfr gan Dafydd Meirion i’r teulu i gyd, yn llawn teithiau a straeon cyffrous, gyda mapiau, holiadur a lluniau diddorol gan Dylan Williams.

Does dim rhaid cyfyngu’r llyfr i deuluoedd yn unig, nac i drigolion Ynys Môn! Byddai ysgolion cynradd ac uwchradd a chymdeithasau yn gallu manteisio ar yr wybodaeth sydd ynddo, a threfnu teithiau ymweld a fyddai’n codi ymwybyddiaeth o ardal a phrofiadau newydd. Cael cyfle i fagu blas at hen, hen hanes. Byddwch yn siŵr o ryfeddu at yr amrywiaeth o straeon sydd ynddo.

Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd i mi dderbyn y llyfr tra oeddwn yn treulio'r Nadolig yn Nwyran, Ynys Môn, nid nepell o draeth Llanddwyn, Ynys y Cariadon ac un o straeon y gyfrol. Roeddwn yn ysu am wisgo dillad cynnes, esgidiau cerdded call, côt law (rhag ofn!) a mynd ar un o’r deg taith posib. Cael cyfle i chwilio am ogof Madam Wen, cofgolofn Tyger, y ci dewr a achubodd bump o ddynion oddi ar greigiau Maen Pisgar, cael cerdded traeth lladron Crigyll, a fu’n denu llongau i’r lan ar nosweithiau niwlog oer, ac ymweld ag adfail Eglwys Dwynwen pan fydd yr haul yn machlud!

Darllenwch y straeon difyr yma ac ewch i anturio rhag blaen yn 2004.

Eirlys Eckley