[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Ar Goll ac Alwena Breichia Tena

Product Details

  • Ar Goll ac Alwena Breichia Tena
  • Anni Llŷn
  • ISBN: 9781845276171
  • Cyhoeddi Hydref 2017 
  • Darluniwyd gan Hannah Doyle
  • Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 197x127 mm, 56 tudalen
Dwy stori fer ddigri i godi gwên mewn un gyfrol ar gyfer plant bach gan Anni Llŷn.

Ar Goll
Druan ar Llifon, Dei, Chwiw, Heti a Twm. Mae’r Eisteddfod wedi darfod a phawb yn torheulo, ond maen nhw ar goll, ac yn byw mewn bocs! Ar ben hyn i gyd, mae Ela, perchennog Llifon y Llyfr Llofnodion yn ysu i’w darganfod yn saff.

Alwena Breichia Tena
Ydych chi’n chwarae rygbi? Mae Alwena’n benderfynol ac ar dân isio chwarae. Yn lwcus iddi hi, mae ganddi Nain heini a chryf sydd am ei hyfforddi. Un peth sy’n sicr, does dim angen cyhyrau mawr i fod yn chwaraewr penigamp.