Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845273194
- Addaswyd/Cyfieithwyd gan Siân Lewis
- Cyhoeddi Mai 2011
- Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
- Fformat: Clawr Meddal, 275x255 mm, 32 tudalen
Stori afaelgar am ferch fach sy'n byw yng nghanol tylwyth teg a chreaduriaid rhyfeddol ond sydd ddim yn gallu eu gweld. Aiff i chwilio amdanynt ar hyd ac ar led y wlad gan ddod o hyd iddynt o'r diwedd. Mae'r llyfr yn llawn golygfeydd dramatig a deniadol ac mae'r awdur/arlunydd, Peter Stevenson, wedi darlunio cyfoeth o fanylion gogleisiol ar bob tudalen.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r arlunydd wedi bod yn gyfrifol am ddegau o lyfrau deniadol i gyhoeddwyr Lloegr ond mae wedi byw yn Llŷn am gyfnod pan oedd yn blentyn ac yn Aberystwyth ers chwarter canrif bellach.
Mae Siân Lewis wedi llwyddo i lunio addasiad celfydd, annwyl a byrlymus – yn ôl ei harfer.
