[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Byd y Morrisiaid - Pytiau o'u Gohebiaeth

Product Details

  • ISBN: 9781845276089
  • Tegwyn Jones
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 204 tudalen
Detholiad difyr a darllenadwy o lythyrau'r Morrisiaid. Casgliad o ddyfyniadau byrion a difyr a geir yma, yn ymwneud â Morrisiaid Môn, y teulu enwog hwnnw o'r ddeunawfed ganrif sydd ymhlith rhyfeddodau ein hanes a'n llên.

Tabl Cynnwys:
Casgliad o ddyfyniadau byrion a difyr a geir yma, yn ymwneud â Morrisiaid Môn, y teulu enwog hwnnw o’r ddeunawfed ganrif sydd ymhlith rhyfeddodau ein hanes a’n llên. Meibion a merch Morris Prichard a’i briod Marged oeddynt – Lewis, Richard, William, John ac Elin. Bu John farw’n ieuanc ar y môr, er bod nifer o’i lythyrau wedi goroesi, ond nid oes yr un llythyr ar glawr o waith Elin. Ymgartrefodd Lewis yng Ngheredigion, a llwyddo, fel gwas y Goron yno, i ennyn dicter ffyrnig yr ysweiniaid lleol; aeth Richard i Lundain yn llanc ieuanc a dringo i swydd gyfrifol yno yn y Swyddfa Forol ar ôl trafferthion lu, ond ym Môn y treuliodd William y rhan fwyaf o’i yrfa ef, yn swyddog yn y ‘Cwstwm Hows’ yng Nghaergybi. Am yn agos i ddeugain mlynedd bu’r brodyr hyn yn gohebu â’i gilydd, ac yma ceir pigion o’r ohebiaeth faith honno sy’n cyffwrdd â phob math o bynciau’r dydd a’u hymateb iddynt. A bydd yr hynafgwr, eu tad, yn rhoi ei big i mewn ar dro, ac ambell un arall, megis Ieuan Brydydd Hir yntau, a hynny yn oes aur y llythyr personol a llenyddol.

Gwybodaeth Bellach:
Meibion a merch Morris Prichard a'i briod Marged oeddynt – Lewis, Richard, William, John ac Elin. Bu John farw'n ieuanc ar y môr, er bod nifer o'i lythyrau wedi goroesi, ond nid oes yr un llythyr ar glawr o waith Elin. Ymgartrefodd Lewis yng Ngheredigion, a llwyddo, fel gwas y Goron yno, i ennyn dicter ffyrnig yr ysweiniaid lleol; aeth Richard i Lundain yn llanc ieuanc a dringo i swydd gyfrifol yno yn y Swyddfa Forol ar ôl trafferthion lu, ond ym Môn y treuliodd William y rhan fwyaf o'i yrfa ef, yn swyddog yn y 'Cwstwm Hows' yng Nghaergybi. Am yn agos i ddeugain mlynedd bu'r brodyr hyn yn gohebu â'i gilydd, ac yma ceir pigion o'r ohebiaeth faith honno sy'n cyffwrdd â phob math o bynciau'r dydd a'u hymateb iddynt. A bydd yr hynafgwr, eu tad, yn rhoi ei big i mewn ar dro, ac ambell un arall, megis Ieuan Brydydd Hir yntau, a hynny yn oes aur y llythyr personol a llenyddol.