[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Caerdydd a'r Cymoedd (Cyfres Broydd Cymru: 12)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863816925
  • Awdur: Gareth Pierce
  • Cyhoeddi Mai 2002
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x147 mm, 124 tudalen

Cyfrol hynod ddifyr yn portreadu amryfal agweddau ar hanes a diwylliant ardaloedd Caerdydd a chymoedd glofaol De Cymru, eu diwydiannau hen a newydd, ynghyd â'u hadeiladau nodedig a'u cymeriadau lliwgar. 35 ffotograff du-a-gwyn a 4 map.

Adolygiad Gwales
Llwyddodd yr awdur yn y gyfrol hylaw hon i roi amlinelliad o hanes yr amrywiol ardaloedd, gan amlinellu llwybrau posibl i’n harwain i fannau hynod, a chyflwyniad i’r bobl a wnaeth gyfraniad i’n gorffennol a’n presennol drwy eu gwaith ym myd diwydiant, pensaernïaeth, chwaraeon neu lenyddiaeth.

O fewn cwmpas 104 o dudalennau, cawn ein cyflwyno i leoedd sy’n rhan o hanes y werin Gymraeg. Cawn gyfeiriadau at hanes cynnar yr ardaloedd dan sylw, hanes a ymgorfforir yn hud yr eglwysi Celtaidd gwreiddiol, ac mae blasu enwau megis Penderyn, Cwm Llysieuog, Cefncoedycymer, Llwyncoed, Abercwmboi a Chraig y Llyn yn ddigon i ddeffro awydd i ymweld â’r mannau hanesyddol, llai adnabyddus hyn sy’n rhan greiddiol o’n hetifeddiaeth fel cenedl.

Cyfeirir hefyd at yr anrheithio a fu ar hen adeiladau mewn ambell fan, e.e. Hirwaun, heb lithro i groniclo creithiau, gan fod yr awdur yn adnabod ei fro yn ddigon da i wybod fod lleoedd fel Pontypridd, ‘Baghdad y cymoedd’, yn ganolfannau i rym ac egni diwylliant gwerinol Cymraeg y cymoedd.

Mae lluniau’r Bwrdd Croeso a Gwasg Carreg Gwalch yn ychwanegu at ddifyrrwch y gyfrol, ac mae’r mapiau hwythau’n gymorth i wreiddio’r ffeithiau mewn man a lle. Drwy’r cyfeiriadau map dynodir union leoliad y mannau sydd o wir ddiddordeb hanesyddol. Weithiau, fodd bynnag, teimlwn y byddai mapiau bychain pellach wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddisgrifio ardaloedd megis Pontsticill, Taf Fechan a’r Bannau.

Ceir rhai llithriadau orgraffyddol y gellid eu cywiro yn yr ail argraffiad megis diwedd brawddeg olaf tudalen 36, sy’n gorffen ar ei hanner; camgymeriadau sillafu megis enw’r merthyr Rawlins White (‘Rawlias’) a ferthyrwyd yn 1555 am ei gred (t. 84) a’r duedd mewn mannau, yn enwedig tua diwedd y gyfrol, i adael i ambell air ymglymu’n ddi-fwlch â’r gair nesaf ato. Gwendidau yw’r rhain y gellid eu cywiro gyda golygu manylach.

Ar ddiwedd y llyfr ceir adran sy’n rhestru enwogion ddoe a heddiw megis Ben Bowen, Laura Ashley, Gwyneth Lewis, Gwilym Roberts a’r Stereophonics. Nid tasg hawdd yw mentro ar restr o’r fath gyda chynifer o enwogion eraill yn dod i’r meddwl. Er enghraifft, ni chrybwyllir cyfraniad llenyddol Alun Llywelyn-Williams, a gellid meddwl am eraill, fel Christmas Evans ac Ieuan Gwynedd, sy’n rhan loyw o hanes capel y Tabernacl ac ardal yr Ais yng Nghaerdydd.

Er hynny, dyma gyfrol werth ei phrynu sy’n ychwanegiad pellach i’n dealltwriaeth o’r hyn a barodd i Gaerdydd dyfu o fod yn dreflan fechan anhysbys i fod yn brifddinas amlwg ac atyniadol.

Gwen Emyr