Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272944
- Mary Wiliam, Eurwyn Wiliam, Dafydd Wiliam
- Cyhoeddi Gorffennaf 2010
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 104 tudalen
Yn ystod y Dirwasgiad, bu ymdrech arwrol i geisio lliniaru peth ar y diweithdra enbyd oedd yn ardaloedd diwydiannol Cymru. Bryn-mawr yng Ngwent oedd y dre yr effeithiwyd arni waethaf, ac yma yn 1928 daeth grŵp o Grynwyr ifainc at ei gilydd i geisio gwella'r sefyllfa. Yr oedd Arbrawf Bryn-mawr yn ymgais orchestol a chwyldroadol i newid natur cymdeithas.
