Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845270551
- Awdur: Myrddin ap Dafydd
- Cyhoeddi Medi 2006
- Darluniwyd gan Amrywiol
- Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1
- Fformat: Clawr Meddal, 279x208 mm, 64 tudalen
Disgrifiad Gwales
Cyfrol o gerddi i'w mwynhau a'u rhannu gan fardd plant cyntaf Cymru, Myrddin ap Dafydd. Mae yma nifer o gerddi sy'n cosi'r glust ac yn tanio'r dychymyg ar bob math o themâu difyr. Yn cynnwys lluniau lliwgar a chyfoethog gan chwe arlunydd penigamp.
Adolygiad Gwales
Trysorfa o gerddi o bob math sydd yma: rhai’n ddoniol, rhai’n ddwys, rhai sy’n dysgu a rhai sy’n ddifyrrwch pur. Mae yma gerddi gwahanol o bob math a fydd yn apelio at blant o sawl oedran. Bydd y plant ieuengaf, er enghraifft, yn eu dyblau gydag odli swrreal cerdd fel ‘Mistar Panda’, gan ymuno’n frwd yn y bwrdwn, ‘Gwranda, Mistar Panda . . . ’, neu ‘Cynffonnau' – sef cerdd ddyfalu lle mae’r odl goll ym mhob pennill yn rhoi cliw am y gair sydd i ddod. Mae cerdd ddwys fel ‘Byth bythoedd’, ar y llaw arall, sy’n sôn am deimlo cywilydd o gael stŵr, yn un a fydd yn apelio at blant canol yr ysgol gynradd ac uwch; felly hefyd afiaith geiriol gwallgo’ ‘Cyfri llythrennau’.
Mae yma amrywiaeth dda o ran mydr, ffurf a hyd y cerddi, ac mae amrywiaeth y darluniau hefyd yn cyfoethogi’r gyfrol. Mae’r lluniau gan chwe arlunydd gwahanol yn benigamp. O arddull delynegol Sue Morgan hyd luniau mwy cartwnaidd Chris Glynn, maen nhw’n llawn hiwmor a lliw ac yn ychwanegu at yr argraff hwyliog. Yr unig gŵyn sydd gen i am y gyfrol hyfryd hon yw bod y teitl braidd yn gamarweiniol – nid cerddi oed meithrin/derbyn yn unig sydd yma o bell ffordd.
Elin ap Hywel
