[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Cerddi Tec Lloyd

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845272517
  • Awdur: Tecwyn Lloyd
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2009
  • Golygwyd gan Ieuan Parri
  • Fformat: Clawr Meddal, 183x122 mm, 176 tudalen

Cyflwyniad sylweddol i gerddi Tecwyn Lloyd, un o ffigyrau amlycaf llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif - gŵr oedd hefyd yn llawn dychymyg ac yn dipyn o dderyn.

Gwybodaeth Bellach:
'Fel dyn ysgrifau, erthyglau, storïau, ac astudiaethau y mae Tecwyn Lloyd yn adnabyddus i Gymry llengar, ond fe ymddangosai ambell gerdd ganddo yn awr ac yn y man – nid bob amser dan ei enw ei hun. Yr oedd rhai o’r rhain yn grafog ac yn gwneud hwyl am bethau a ystyriai’n wiriondebau – hyd yn oed wiriondebau ei gyfeillion (fe ymddengys ei fod o’n ystyried un o ’ngherddi i, ‘Darn â llawer o -au ynddo’ fel un o’r gwiriondebau hynny, petai peth felly o bwys). Ond yr oedd eraill o’i gerddi yn gerddi dwys ac ystyriol. Un o’r pethau pwysig a ddatgelodd traethawd ymchwil Ieuan Parri yw’r nifer eithaf sylweddol o gerddi a chyfieithiadau o gerddi sydd yng ngwaith Tecwyn, un ai dan enwau pobol ffug, neu dan ei enw ei hun. Fe’u cyflwynir nhw yma – un neu ddwy ohonyn nhw’n eithaf dyrys. Y mae’r casgliad hwn yn rhoi gwedd newydd, i ryw raddau, ar D. Tecwyn Lloyd ac yn rhoi cyfle i ddarllenwyr Cymraeg gael darlun mwy cyflawn ohono fel ysgrifennwr.'
Cyflwyniad gan Gwyn Thomas