[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Cwrw Cymru

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845270353
  • Awdur: Lyn Ebenezer
  • Cyhoeddi Awst 2006
  • Fformat: Clawr Meddal, 209x147 mm, 116 tudalen

Hanes bragu medd, cwrw a seidr, a distyllu wisgi yng Nghymru. Ffotograffau du-a-gwyn, a 32 tudalen o ffotograffau lliw.

Adolygiad Gwales
Cyfrol o waith Lyn Ebenezer, o stabal Carreg Gwalch, yw Cwrw Cymru sy’n ein tywys drwy hanes y diwydiant bragu yng Nghymru gan ymdrin nid yn unig â chwrw ‘traddodiadol’, ond â diodydd a gwirodydd amrywiol. Mae’r daith yn dechrau gyda medd, gan ddarlunio ei bwysigrwydd cymdeithasol yn llysoedd yr uchelwyr a’r tywysogion, ei ddylanwad ar ein llenyddiaeth, ei le yng Nghyfraith Hywel Dda, ac yn y mynachlogydd a oedd yn bell o fod yn sych. I’r rheini ohonom sy’n gyfarwydd â’r Gododdin, does dim angen ein hatgoffa am y ‘Gwŷr a aeth Gatraeth’ a’u hoffter o lasfedd cyn y frwydr fawr. O ystyried enwau ambell gwrw cyfoes megis ‘Sais Slayer’, allech chi feddwl nad oes llawer iawn wedi newid yn ystod y pymtheg canrif ers cyfnod Aneurin.

Wrth barhau â’r daith hanesyddol gwelwn mai pwyslais ar yr ‘elwch’ yn hytrach na’r ‘tawelwch’ sy’n nodweddu hanes bragu, neu facsu, ar hyd y canrifoedd. Ymhlith yr hanesion difyr cawn glywed am y cythrwfl meddw rhwng brodyr lleyg abaty Ystrad Fflur ag Abaty Cwm Hir ym 1195, a’r alltudio i Ffrainc a fu’n gosb am hynny.

Mae’n amlwg bod macsu yn arfer oedd uwchlaw ffiniau dosbarth a ffiniau cyfoeth a thlodi, gyda chymunedau cyfain yn rhan o’r diwydiant. Yng ngeiriau Tydfor wrth iddo sôn am gartrefi Cwm Gwaun: ‘Mae fel hotel ym mhob tŷ. Hotel a neb yn talu’.

Wrth i ni ddarllen ymhellach, dysgwn sut y trodd diwydiant cymunedol poblogaidd yn fusnes masnachol anferthol, gyda bragdai yn codi fel madarch yn ardaloedd poblog y diwydiannau trwm, a rhawd y bragdai yn dilyn llanw a thrai'r diwydiannau hynny. A faint o bobl sy’n gwybod sut y bu ond y dim i Gymru fod yn gartref i Guinness, a bod Felin-foel wedi arloesi yn fyd-eang gyda chwrw mewn caniau?

Mae’r cyfan yn cael ei gyflwyno o safbwynt Cymreig, gyda hanesion bragdai lleol bychain weithiau’n gorfod ymladd am eu heinioes yn wyneb cystadleuaeth gan gwmnïau anferth, cyfranddalwyr a rheolwyr allanol, a pheiriannau marchnata digyfaddawd - stori sy’n gyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n poeni am ddylanwadau negyddol globaleiddio cyfoes.

Mae diwyg y gyfrol yn atyniadol iawn gyda lluniau pwrpasol, hen bosteri a chartwnau yn darlunio’r cynnwys. Un peth pwysig y mae yn ei gyflawni yw agor ein llygaid i gwmnïau a diwydiannau Cymreig ar garreg ein drws, ac at frandiau a chynnyrch lleol sy’n haeddu ein cefnogaeth.

Mae’n hysbyseb ardderchog i’r cwrw a’r diodydd eraill sy’n cael eu bragu yng Nghymru, yn gronicl o’r dulliau hanesyddol o greu amrywiol ddiodydd alcoholaidd, ac yn daith hanesyddol ddifyr dros ben. I gael benthyg gair neu ddau gan Eirwyn Pontshân ac Undeb y Tancwyr: ‘Hyfryd Iawn!’

Morys Gruffydd