[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Dathlu Calan Gaeaf (Cyfres Hwyl Gwyl)

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £3.48

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £6.95






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863819377
  • Awdur: Myrddin ap Dafydd, Emily Huws, Gordon Jones, Siân Lewis, Gwyn Morgan
  • Cyhoeddi Medi 2005
  • Golygwyd gan Gordon Jones
  • Addas i oed 9-11+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 281x210 mm, 64 tudalen

Cyfrol llawn hwyl a sbri yn benodol ar gyfer Calan Gaeaf, yn cynnwys gweithgareddau coginio, ryseitiau, gêmau, syniadau am wisgoedd a chrefftau, cerddi, straeon ysbryd a ffeithiau difyr. Addas i blant 9-11 oed.

Adolygiad Gwales
Dyma lyfr hynod ddifyr i blant hynaf yr ysgol gynradd; mae'n llawn gwybodaeth a gweithgareddau yn ogystal â cherddi a straeon traddodiadol a gwreiddiol. Mewn dull bywiog iawn ceir hanes dathlu calan gaeaf o'r tarddiad Celtaidd hyd at bartïon cyfoes, gyda chip hefyd ar arferion gwledydd Ewrop, Asia a De America.

Ceir digonedd o syniadau am wisgo i fyny a choluro fel gwrach neu ysbryd, yn ogystal â ryseitiau rhwydd am Gawl Gwaed a Bwyd Bwganod (ac oes, mae llond Lantern-pen-bwgan o gyflythrennu yn y gyfrol hon!!)

O ran diwyg, mae'n lliwgar a deniadol, gyda nifer o ddarluniau ar bob tudalen. Os oes gwendid yn y llyfr yma, yna'r gormodedd o arddulliau darlunio yw hwnnw a safon amrywiol y ffotograffiaeth. Hawdd gweld ôl ffotograffydd proffesiynol.

Braf yw gweld llyfr hawdd ei ddarllen sy'n berwi â ffeithiau a dywediadau mor ddifyr. Bydd y llyfr hwn yn boblogaidd iawn gyda'r plant – a gydag ychydig o drefnu ymlaen llaw bydd yn adnodd hynod ddefnyddiol i rieni ac athrawon.

Mari Rhian Owen