Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272258
- Awdur: Elin Meek
- Cyhoeddi Medi 2009
- Addas i oed 7-9+.
- Fformat: Clawr Meddal, 280x210 mm, 80 tudalen
Llyfr darllen difyr, darluniadol, llawn lliw i blant (a theuluoedd) yn cyflwyno hanes, dyddiadau a dathliadau, traddodiadau, chwedlau, cerddi a gweithgareddau, yn ymwneud â Thywysogion Cymru. Rhagor na 100 o ddelweddau lliw, yn ffotograffau, lluniau, mapiau a deiagramau.
Gwybodaeth Bellach:
Er i oes Tywysogion cynhenid Cymru ddod i ben gyda diflaniad Owain Glyndŵr yn 1409, mae hanes y Tywysogion yn dal i fod yn bwysig i ni heddiw. Cewch wybod pam yn y gyfrol gynhwysfawr hon sy’n cyflwyno holl gyfoeth a chyffro Oes y Tywysogion mewn ffordd eglur a difyr. Darllenwch am:
• Yr ‘Hen Gymry’ oedd yn rheoli Prydain ar un adeg.
• Cyfnod pan oedd y teulu a hel achau yn bwysig i’r Tywysogion ac i’r Cymry byth ers hynny.
• Bod cyfraith Hywel Dda yn deg iawn, o flaen ei amser ac yn cefnogi hawliau i blant ac i ferched.
• Pam roedd beirdd a mynachod yn bobl allweddol i’r Tywysogion.
• Pam na lwyddodd y Llychlynwyr i greu argraff ar Gymru.
• Hanes y tywysog a sefydlodd yr eisteddfod gyntaf yn 1176.
• Sut y cawsom enwau fel Jones, Bowen a Powell.
• Bod Owain Glyndŵr wedi brwydro i gael gwell addysg, hawliau a llywodraeth i bobl Cymru ac wedi bod yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o Gymry.
Mwynhewch wneud gweithgareddau hwyliog fel: llunio arfbais; gwneud achau eich teulu chi; creu catapwlt; cadw dyddiadur fel un Gerallt Gymro; llunio cân i’ch arwr cenedlaethol eich hun.
