[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Dau Deulu, Un Delyn - Hanes Pencraig Fawr a Hafod y Gān

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £1.00

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £5.00






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

ISBN: 9780863816321
Awdur: Ceri Owen
Cyhoeddi Gorffennaf 2001
Fformat: Clawr Meddal, A5, 132 tudalen

Hanes difyr teulu cerddgar Hafod-y-Gân, Dyffryn Clwyd, a deithiodd yn helaeth i ddifyrru cynulleidfaoedd Cymru rhwng 1977-90, sy'n olrhain achau'r teulu i draddodiad gwerin a cherdd dant cyfoethog Uwchaled a Bro Hiraethog, ynghyd â chasgliad o dros ugain o gerddi a gyfansoddwyd gan Ceri Owen, i'w perfformio gan y parti. 68 o ffotograffau du-a-gwyn teuluol.

Adolygiad Gwales
Wrth i’r genhedlaeth sy’n cofio Cymru didrydan, di-gar a diarchfarchnad edwino o ran nifer, mae perygl i’r ymwybyddiaeth ymhlith y cenedlaethau iau o draddodiadau eu gwlad ddiflannu. Mae llyfrau megis Dau Deulu, Un Delyn yn gymorth i osgoi hyn.

Ym mhenodau cyntaf y gyfrol ddifyr hon, mae Ceri Owen yn hel atgofion am ei phlentyndod fel yr ieuengaf o ddeg o blant teulu’r Pencraig ger Melin y Wig. Yn ôl yr arfer, bryd hynny, roedd trefn bendant i’r wythnos – golchi ar ddydd Llun, pobi ar ddydd Mawrth, corddi ar ddydd Iau a glanhau a blacledio’r grât ar ddydd Gwener.

Diwrnodau mawr oedd diwrnod dyrnu, diwrnod lladd mochyn a diwrnod cneifio pan ddeuai nifer o’r cymdogion draw i gynnig help llaw. Ceir portreadau difyr o nifer o gymeriadau’r fro yn y gyfrol hon, ac mae’r pytiau o straeon doniol a barddoniaeth sy’n gymysg â’r adrodd yn ychwanegu llawer at y mwynhad.

Fel yr awgryma teitl y gyfrol, roedd cerddoriaeth yn amlwg iawn ym mywyd teulu’r Pencraig. Treulid y gyda’r nosau yn canu o gwmpas y piano a’r delyn ac yn cadw cyngherddau yma ac acw. Diddorol yw sylwi cymaint o gerddorion adnabyddus presennol y fro sydd yn perthyn i’r teulu – Margaret Edwards, Betws Gwerful Goch, Beryl Lloyd Roberts, Rhuthun a theulu’r McGregors.

Bu Annie Davies, Telynores Hiraethog, yn aros ym Mhencraig am gyfnod a manteisiodd Ceri ar y cyfle i chwarae’r delyn. Dysgu alawon Cymreig o’r glust a wnaeth, heb erioed gael yr un darn o bapur o’i blaen – arferiad sydd yn prysur ddiflannu yng Nghymru erbyn hyn, yn anffodus. Parhaodd y delyn yn rhan bwysig o fywyd Ceri ar ôl iddi adael Pencraig a sefydlu cartref gyda’i gŵr, John Owen, a’u chwech o blant – yr ail deulu y cyfeirir atynt yn y gyfrol hon.

Yn ail hanner y gyfrol, felly, cawn gymysgedd o hanesion cyffredinol am John a Ceri a’r plant, a’u hynt a’u helynt yn teithio o amgylch Cymru yn cadw cyngherddau fel Parti Hafod y Gân.

Llyfr wedi’i anelu at y darllenydd cyffredin yw hwn. Mae’r iaith yn syml a’r arddull yn gartrefol gyda’r hanesion yn dilyn ei gilydd fel y maent yn dod i gof yr awdur. Nid llunio cofnod hanesyddol ffurfiol a manwl yw’r bwriad, ond rhoi blas i’r darllenydd o fywyd yng nghefn gwlad Cymru’r gorffennol. Yn sicr, mae hi’n gyfrol fydd yn apelio’n fawr at y bobl sy’n adnabod y cymeriadau a gyfeirir atynt ond, o gofio i deulu Hafod y Gân fod yn enwog drwy Gymru benbaladr, mae’n siŵr y bydd sawl person y tu hwnt i filltir sgwâr y teulu yn cael pleser mawr o ddarllen Dau Deulu, Un Delyn.

Meinir Llwyd Jones