[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Dawn Dweud o Dan y Bwlch (Sgyrsiau Noson Dda)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274245
  • Cyhoeddi Mehefin 2013 
  • Golygwyd gan Twm Elias
  • Fformat: Clawr Meddal, 197x128 mm, 104 tudalen
Dros y blynyddoedd, mae stafelloedd Plas Tan y Bwlch - canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Maentwrog - wedi cynnal llu o sgyrsiau a darlithoedd sydd wedi codi hwyl a difyrru. Yn rheolaidd, byddai'r cyrsiau Llafar Gwlad yn denu cwmnïaeth ddifyr a siaradwyr diddorol. Yn y gyfrol hon: Dic Jones, T. Llew Jones, Bedwyr Lewis Jones mewn sgyrsiau a recordiwyd gan Twm Elias.

Tabl Cynnwys:
1. Dic Jones – ‘Beirdd Gwlad a Beirdd Answyddogol fy Mro’
2. T. Llew Jones – ‘Y Cythraul Cystadlu’
3. Bedwyr Lewis Jones – ‘Caeau’

Gwybodaeth Bellach:
Dros y blynyddoedd, mae stafelloedd Plas Tan y Bwlch – canolfan Parc Cenedlaethol Eryri ym Maentwrog – wedi cynnal llu o sgyrsiau a darlithoedd sydd wedi codi hwyl a difyrru. Yn rheolaidd, byddai’r cyrsiau Llafar Gwlad yn denu cwmnïaeth ddifyr a siaradwyr diddorol.

Drwy lwc, bu Twm Elias yn ddigon hirben a bachog i recordio nifer ohonynt ac er bod dros ugain mlynedd wedi mynd heibio ers traddodi rhai ohonynt, maent yn bynciau oesol – ac nid yw’r hiwmor wedi treulio chwaith. Yn y casgliad hwn:
1. Dic Jones – ‘Beirdd Gwlad a Beirdd Answyddogol fy Mro’
2. T. Llew Jones – ‘Y Cythraul Cystadlu’
3. Bedwyr Lewis Jones – ‘Caeau’