[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Dewi Dwpsi a'r Dreigiau

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • Awdur: Dewi (Pws) Morris a Rhiannon Roberts
  • Fformat: Clawr meddal; 260 x 200 mm; 32 tudalen
  • Dyddiad Cyhoeddi: Awst 2007
  • Stori i blant 4-7 oed

Stori ddoniol a byrlymus ar thema rygbi.

Mawredd mawr – hon yw’r un fawr – Cymru’n erbyn Lloegr am y Gamp Lawn! Ond, o na, mae’r holl ddreigiau coch wedi diflannu oddi ar faneri Cymru yn Stadiwm y Mileniwm!

Pwy sydd wedi’u dwyn? Pwy all helpu?

Rhaid eu darganfod cyn cychwyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr.

Mae bachgen o’r enw Dewi yn gwybod mai Dwpsi’r ddraig werdd yw’r union un i achub y dydd. Tybed a all Dewi a Dwpsi godi calonnau’r Cymry?

Lluniau arbennig gan Eric Heyman; lliw llawn ar bob tudalen.