Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272012
- Awdur: Bethan Wyn Jones
- Cyhoeddi Medi 2009
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 96 tudalen
Dilyniant i'r gyfrol Doctor Dail 1. 80 tudalen lliw llawn ar blanhigion meddyginiaethol. Unwaith eto, mae cyfeiriad ynddi at rai blodau gwyllt a rhai o'r ardd. Ceir hefyd ambell i bennod sy'n sôn am blanhigion sydd ddim mor gyffredin i ni yng Nghymru, ond eto rydym yn gyfarwydd iawn â'u henwau.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’n rhyfeddol sut mae diddordeb mewn llysiau llesol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Wrth i ni ddod yn fwyfwy ymwybodol o gynhesu byd-eang, o beryglon plaladdwyr a chwynladdwyr ac o ragoriaeth bwyd organig, mae diddordeb hefyd wedi cynyddu mewn planhigion meddyginiaethol.
Efallai fod nifer o’r planhigion y cyfeirir atynt yn y gyfrol hon yn ddieithr i ni, ond nid felly i’r oes o’r blaen. Rheidrwydd iddyn nhw oedd adnabod planhigion a gwybod sut i ddefnyddio’r planhigion hynny, er eu lles eu hunain a’u teulu.
