Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272845
- Awdur: Wil Griffiths
- Cyhoeddi Gorffennaf 2010
- Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm
Disgrifiad Gwales
Ar ôl treulio bron i hanner can mlynedd â'i ben mewn cwch gwenyn, dyma Wil Griffiths o Aberystwyth yn casglu ei brofiadau mewn cyfrol. Ei obaith yw y bydd o gymorth i wenynwyr eraill o Gymry, ond yn fwy fyth i addysgu'r rhai sydd am ddarllen ac sy'n awyddus i wybod mwy o gyfrinachau'r creaduriaid hyn - creaduriaid y mae ein bara beunyddiol yn dibynnu cymaint arnynt.
Gwybodaeth Bellach:
Creu diddordeb yn hytrach na chyflwyno techneg, efallai, yw gwir amcan y llyfr. Ceisiodd yr awdur gadw’r wybodaeth mor syml â phosibl yn y gobaith y bydd y darllenydd yn synhwyro peth o’r hud sydd wedi’i gyfareddu ef drwy’r blynyddoedd. Yr hyn sydd yma yw llwybr trwy ddigwyddiadau personol, doniol neu ddifrifol, ar y naill law a chyflwyno ychydig wybodaeth o brofiad am wenyna ar y llaw arall.
