[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Enlli - Tu Hwnt i'r Swnt

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274863
  • Marian Delyth
  • Cyhoeddi Hydref 2015
  • Fformat: clawr caled, 217x217mm, 168 tudalen

Cyfrol ddarluniadol hardd, liw llawn am Ynys Enlli gan ffotograffydd sydd wedi treulio cryn amser ar yr ynys.  Delweddau yw prif gynnwys y gyfrol, ond ceir hefyd bytiau am hanes yr ynys ynghyd ag ymateb ymwelwyr i'w swyn.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Marian Delyth yn enwog fel dylunydd profiadol a dyfeisgar ac fel ffotograffydd eithriadol.  Ymysg y cyfrolau y mae wedi eu darlunio mae Hanner Cant (Iwan Llwyd) I'r Gad - Hanner Canrif o Brotestio dros y Gymraeg a Cyfres Celf Cymru 2000: Cymru o Hud (Gwynfor Evans).  Dyfarnwyd y gyfrol o'i lluniau Cymru: y 100 lle i'w gweld cyn marw yn gyfrol y flwyddyn yn 2010.

Gwybodaeth Bellach:

Delweddau fydd yr elfen amlycaf y y llyfr ond cyflwynir tameidiau o hanes y bobl a fu ar yr ynys a'u hymateb iddi gan ddefnyddio dyfyniadau fydd yn ymddangos gyda'r lluniau.