[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Enwau Lleoedd Ym Maldwyn

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £1.00

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £4.95






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863818417
  • Awdur: Richard Morgan
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2003
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Dai Hawkins.
  • Fformat: Clawr Meddal, 182x123 mm, 192 tudalen

Addasiad Cymraeg o astudiaeth o bron i 500 o enwau lleoedd yn Sir Drefaldwyn yn cynnwys manylion am darddiad ac ystyr enwau ynghyd â gwybodaeth am hanes a daearyddiaeth y lleoedd. 4 map.

Adolygiad Gwales
Llafur cariad yw ymchwilio i enwau lleoedd. Mae’n golygu palu am flynyddoedd ymysg hen ddogfennau am enghreifftiau, cyn ceisio rhidyllu am ystyron sy’n aml yn amheus ac weithiau’n gwbl anesboniadwy. Mae’n faes lle mae gan bawb a’i frawd ei farn. Nid yw’n ddisgyblaeth i’r gwangalon. Nid yw’n syndod felly mai prin yw’r unigolion sy’n gweithio ynddi yng Nghymru, ond mae Richard Morgan yn un o’r rheini, a diolch amdano. Mae’n arbenigwr ar enwau lleoedd Powys, ac mae’n debyg y bu’n gweithio ar y casgliad hwn o ryw 500 o enwau am 25 mlynedd.

Mae’r gyfrol hon o’i waith, wedi’i chyfieithu a’i haddasu i gynulleidfa Gymraeg gan Dai Hawkins, a fu hefyd yn gweithio yn y maes ym Mhowys, yn ychwanegiad i’w groesawu at yr amryw o lyfrau diweddar ar enwau lleoedd yng Nghymru.

Mae hon yn gyfrol am wlad y ffin, lle bu dylanwadau Cymreig, Normanaidd a Seisnig oll yn brwydro i adael eu hôl ar ei henwau. Mae’r cyflwyniad ei hun yn agoriad llygad i’r llanw a thrai ieithyddol a fu bob ochr i Glawdd Offa.

Yn dilyn hynny, ceir trysorfa o wybodaeth am enwau mannau o Aberangell i Ystumgynon. Mae’r testun yn glir, ac wedi’i ysgrifennu mewn arddull ddifyr, hawdd i’w darllen. Nid llyfr academaidd, sych mo hwn. Mae’r dystiolaeth yn gadarn, a cheir digon o straeon i oleuo’r esboniadau a’r camddehongli fu yn y gorffennol. Bydd yn sicr o ddiddordeb i drigolion mwyn Maldwyn ac i’r eisteddfodwyr fu yno dros yr haf. Yn ogystal, bydd yn werthfawr i unrhyw Gymro sydd â diddordeb mewn enwau lleoedd.

Mae ambell frycheuyn yn y gyfrol, ond bach iawn ydynt mewn gwirionedd. Er enghraifft, yn y cofnod am Abercegir, ceir esboniad bod yr enw yn cyfeirio at afon Cegyr, a bod yr enw hwn yn ei dro yn golygu ‘afon a chegyr yn tyfu ar ei glannau’. Ond ni cheir esboniad pam mai Abercegir yw’r sillafiad sy’n cael ei awgrymu. Byddai hefyd yn ddiddorol gwybod beth yw cefndir brawddegau megis yn y cofnod am Bausley: “Defnyddir y ffurf Gymraeg Basle gan y Cyngor Cymuned, ond ni allaf ddarganfod tystiolaeth am hyn mewn cofnodion hanesyddol”.

Fodd bynnag, manion yw’r rhain. Mae hon yn gyfrol i bori ynddi, a chewch fwynhad mawr ohoni os oes gennych ddiddordeb ym Maldwyn neu mewn enwau lleoedd.

Fel troednodyn perthnasol, bu Cyngor Sir Powys yn cydweithio’n ddiweddar â Phanel Safoni Enwau Lleoedd Bwrdd yr Iaith i safoni enwau lleoedd y sir – gwaith pwysig a hwyr glas ei gyflawni yng Nghymru. Cynhaliwyd y prosiect peilot ym Maldwyn. Mae’r ardal hon yn amlwg yn dal ar flaen y gad ym maes enwau lleoedd.

Geraint Williams