Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Awdur: Gareth William Jones
- Dyddiad Cyhoeddi: Awst 2007
- Fformat: Clawr Meddal; 196 x 128mm; 72 tudalen
- Addas i blant 7-12 oed
Y chweched stori yn y gyfres Mewnwr a Maswr, am hanes yr efeilliaid sy’n chwarae rygbi.
‘Ffrainc Amdani!’ yw cri Cenawon Nant Cadno.
Mwyaf sydyn mae Robert, seren Ffrengig tîm rygbi’r Cenawon, yn gorfod dychwelyd i fyw i Toulouse. Mae hyn yn ergyd drom i’r tîm ac yn enwedig i’w gariad Angharad ac i Llñr Madog, ei ffrind gorau. Buan iawn y mae Llyr a’i efaill, Llion, yn taro ar y syniad o drefnu i fynd â’r tîm draw i Ffrainc ar drothwy cystadleuaeth Cwpan y Byd.
Mae Ifor Madog, hyfforddwr y tîm, yn gadarn yn erbyn y daith. Ond mae ei feibion ei hun am fynd yn groes iddo a mentro dramor. Pa obaith sydd i’r criw chwarae yn erbyn tîm newydd Robert ym mhen draw Ffrainc?

