[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Gethin Nyth Bran

Product Details

  • ISBN: 9781845276249
  • Gareth Evans
  • Cyhoeddi Medi 2017 
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 176 tudalen
♥ Llyfr y Mis i Blant: Hydref 2017
Nofel ffantasi gyffrous sy'n plethu dau fyd. Mae bywyd yn boen i Gethin, 13 oed, ym Mhontypridd. Mae e'n ffraeo gyda'i fam o hyd, does gan Caitlin ddim diddordeb ynddo, ac mae'r Tri Trist yn mynnu ei blagio. Diflas, diflas. Ond, yn dilyn parti yng nghartref Caitlin ar noswyl Calan Gaeaf, mae bywyd Gethin yn troi ben i waered, ac mae'n deffro mewn byd arall yn y flwyddyn 1713.

Bywgraffiad Awdur:
Mae Gareth Evans yn sgriptiwr profiadol. Dyma ei nofel gyntaf.

Gwybodaeth Bellach:
Yno, mae’n cyfarfod Guto, llanc o’r un oed, ac mae’n cael lloches a gwaith fel gwas ar fferm, Nyth Brân. Gall Guto redeg fel milgi, mae’n ddewr ac yn bopeth nad yw Gethin ddim. Fesul dipyn, mae Gethin yn sylweddoli fod mam Guto, a’i ffrindiau, yn rhyfedd o gyfarwydd. Hefyd Catws, y ferch wyllt ei golwg sy’n byw ar gyrion y gors. Ond yn bwysicach, mae’n dod i sylweddoli nad yw’n gymaint o lipryn ag oedd wedi tybio.
Mae blwyddyn yn mynd heibio, ac wrth i noswyl Calan Gaeaf arall nesáu, a’r ffiniau rhwng y byd hwn a’r byd arall yn deneuach na’r arfer, ym mha fyd fydd y Gethin newydd yn deffro?
Cyngor Llyfrau Cymru - Llyfr Plant y Mis: Hydref