[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Golwg Newydd ar yr Hen Ogledd

Product Details

  • ISBN: 9781845275655
  • Glen George
  • Cyhoeddi Awst 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Mae'r gyfrol hon yn cynnig arolwg hygyrch o hanes yr Hen Ogledd (de'r Alban a gogledd Lloegr) o'r cyfnod Mesolithig hyd at Oes y Llychlynwyr. Dangosir fod dylanwad y Cymry fu'n byw yno ganrifoedd yn ôl yn parhau hyd heddiw yng ngenynnau'r boblogaeth, gyda gwaddol ieithyddol a diwylliannol y cyfnod Cymreig i'w weld hefyd mewn ambell air yn y dafodiaith ac mewn llu o enwau lleoedd.

Bywgraffiad Awdur:
Glen George:
Brodor o Foncath yn sir Benfro a addysgwyd yn Ysgol Gyfun y Preseli cyn graddio mewn sŵoleg ym Mhrifysgol Manceinion. Wedi ennill doethuriaeth mewn ecoleg dŵr crai, bu’n gweithio yng Nghaeredin am gyfnod cyn symud i Ardal y Llynnoedd fel ymchwilydd gyda’r ‘Freshwater Biological Association’. Yn y nawdegau ei bwnc ymchwil oedd effaith cynhesu byd eang ar lynnoedd a bu’n arwain sawl prosiect rhyngwladol ar ran yr Undeb Ewropeaidd rhwng 1996 a 2006. Wedi ymddeol, trodd at fyd hanes ac y mae hefyd yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Llundain a Phrifysgol Aberystwyth.

Gwybodaeth Bellach:
Yr Hen Ogledd yw enw’r rhan o dde’r Alban a gogledd Lloegr y llwyddodd yr hen Gymry i'w cadw o grafangau'r Saeson yn y bumed a’r chweched ganrif. Dyma lle cyfansoddwyd y cerddi cyntaf yn ein hiaith gan feirdd fel Taliesin, Aneirin a’r cymeriad chwedlonol ‘Llywarch Hen’. Teyrnas enwocaf yr Hen Ogledd oedd Rheged yn Ardal y Llynnoedd ond erbyn y nawfed ganrif, Ystrad Clud oedd prif dalaith yr hen Gymry yno.
Mae'r gyfrol hon yn cynnig arolwg hygyrch o hanes y rhanbarth o’r cyfnod Mesolithig i Oes y Llychlynwyr. Nid oes llawer yn gwybod bod cyfathrach agos rhwng Cymry Rheged a Saeson Northymbria a bod yna frenin Cymreig yn yr Alban yn yr unfed ganrif a ddeg. Yn y nawfed ganrif gwladychwyd yr ardal gan Lychlynwyr o Iwerddon ond dengys mesuriadau genynnol mai Cymry yw trwch y boblogaeth o hyd. Ceir yma bennod ar hanes yr Eglwys Fore a phennod ar waddol ieithyddol a diwylliannol y cyfnod Cymreig. Mae ambell i air o’r iaith wedi aros yn y dafodiaith ac y mae llu o enwau lleoedd ‘Cymreig’ yn britho’r tir. Nod yr awdur oedd cyfuno ei wybodaeth leol a’i hoffter o farddoniaeth i daflu golau newydd ar gyfnod tywyll ac i ddangos bod mwy o hanes dilys yn gudd yn yr Hengerdd nag a ystyrid hyd yn hyn.