[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Gwely Haul a Phen-Blwydd Anna a Hanna (Cyfres Clec)

Product Details

  • ISBN: 978184527570
  • Haf Roberts
  • Cyhoeddi Hydref 2016
  • Darluniwyd gan Hannah Doyle
  • Fformat: clwar meddal, 198x128mm, 48 tud

Y pedwerydd mewn cyfres wreiddiol o 'straeon denu darllen'.  Wedi eu hanelu at blant 6+, dyma ddwy stori ffraeth a difyr sy'n cynnwys sefyllfaoedd a chymeriadau lliwgar y gall plant heddiw uniaethu â nhw.  Lluniau du a gwyn hwyliog gan Hannah Doyle.

Gwely Haul. Gwylan glên a llawen yw Gwil erbyn hyn.  Ond ar un adeg, roedd mewn penbleth fawr - roedd Gwil yn methu'n lân â deall ble'r oedd yr haul yn cysgu.  Does dim amdani ond hedfan Cymru i ganfo atebion.

Pen-blwydd Hapus Anna a Hanna.  Mae'n ben-blwydd Anna heddiw.  Mae hi'n ddeg oed, ac mae dathlu mawr.  Dim ond naw oed ydi Hanna - tan fory.  Tybed a fydd Hanna'n gallu bihafio ym mharti ei hefaill?  Dyma drwbl dwy ddwbwl!

Dwy stori i'w clecio mewn UN llyfr.