Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272784
- Siân Lewis
- Cyhoeddi Mawrth 2011
- Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
- Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 32 tudalen
Disgrifiad Gwales
Mae'r Normaniaid yn paratoi i ymosod! Dyna'r newyddion brawychus gafodd y dywysoges Gwenllïan ddiwedd Chwefror 1136. Roedd gŵr Gwenllïan i ffwrdd yn y gogledd. Pwy allai amddiffyn tiroedd y Deheubarth rhag Normaniaid barus castell Cydweli? 'Fe wna i arwain byddin,' meddai Gwenllïan. Hyd heddiw, mae safle'r frwydr ger Mynydd y Garreg yn sir Gaerfyrddin, yn dwyn yr enw Maes Gwenllïan.
