Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- Awdur: Tecwyn Vaughan Jones, E. Wyn James
- Cyhoeddi Gorffennaf 2008
- Fformat: Clawr Meddal, 215x136 mm, 192 tudalen
Cyfrol sy'n canolbwyntio ar gasglwyr llên ac arferion gwerin - rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Amgueddfa Genedlaethol.
Gwybodaeth Bellach:
Trigain mlynedd yn ôl, ar 1 Gorffennaf 1948, agorwyd drysau Amgueddfa Werin Cymru i’r cyhoedd am y tro cyntaf. Amserol felly yw gweld cyhoeddi eleni y gyntaf mewn cyfres o gyfrolau a fydd yn edrych ar wahanol agweddau ar ddiwylliant gwerin Cymru.
Bwriad y gyfres yw cyhoeddi ysgrifau amrywiol ar ein traddodiadau a’n harferion gwerin, a fydd yn seiliedig ar ysgolheictod cadarn, ond a fydd yr un pryd yn ddarllenadwy ac yn hygyrch. Yn ogystal â’r ysgrifau, atgynhyrchir yn y cyfrolau nifer dda o luniau.
Yn y gyfrol gyntaf hon rhoddir sylw arbennig i gyfraniad rhai o’r amlycaf o blith y rheini a fu’n cofnodi ac yn dehongli llên gwerin Cymru yn y cyfnod rhwng tua 1700 a 1900, gan gynnwys Edward Lhuyd, Lewis Morris, Iolo Morganwg, Angharad Llwyd, Glanffrwd a Chadrawd.
Awduron ysgrifau’r gyfrol hon yw Mary-Ann Constantine, Mari Ellis, Tegwyn Jones, Trefor M. Owen, Brynley F. Roberts a Juliette Wood.
Adeg sefydlu’r Amgueddfa Werin, pwysleisiodd Dr Iorwerth Peate bwysigrwydd cofnodi ac astudio ein diwylliant traddodiadol, nid yn unig er mwyn deall gorffennol y genedl yn well, ond er mwyn cryfhau a datblygu bywyd cenedlaethol Cymru i’r dyfodol. Ein gobaith yw y bydd y gyfres newydd hon yn cyfrannu at y delfryd hwnnw.
