[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Gwersyll Fron-Goch 1916 - Y Pair Dadeni

Product Details

  • Gwersyll Fron-Goch 1916 - Y Pair Dadeni
  • ISBN: 9781845275556
  • Lyn Ebenezer
  • Cyhoeddi Mai 2016
  • Fformat: clawr meddal, 215x138mm

Yna y dechreuodd y Gwyddelod gynnau tân o dan y pair dadeni.  Ar drothwy canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg mae'r diweddariad hwn yn cynnwys deunydd newydd i'r argraffiad a ymddangosodd ddeng mlynedd yn ôl.  Argraffiad newydd o'r fersiwn argraffwyd yn 2005.

Mae Lyn Ebenezer yn newyddiadurwr a wnaeth lawer i hybu'r berthynas rhwng y Cymru a'r Gwyddelod.  Taniwyd ei ddiddordeb yn y pwnc hwn pan gyfarfu â'r cyn-garcharor Joe Clarke nôl yn 1970.  Gwnaed ef yn aelod oes o'r Michael Collins 22 Society yn 2014.