Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272180
- Awdur: Gareth William Jones
- Cyhoeddi Mai 2009
- Addas i oed 9-11.
- Fformat: Clawr Meddal, 195x130 mm, 72 tudalen
Nofel am efeilliaid a'u hanturiaethau wrth chwarae rygbi. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed. Breuddwyd pob chwaraewr rygbi ydi chwarae dros ei wlad, a phan fo dau ddyn dieithr yn ymddangos yn ystod gêm rhwng y Cenawon ac Ebolion Rhyd-y-meirch, mae gobaith y daw'r freuddwyd yn wir i ambell un sydd ar y cae y diwrnod hwnnw. Ond i bwy?
Gwybodaeth Bellach:
Nofel am efeilliaid a'u hanturiaethau wrth chwarae rygbi. Addas i ddarllenwyr 9-11 oed.
Breuddwyd pob chwaraewr rygbi ydi chwarae dros ei wlad, a phan fo dau ddyn dieithr yn ymddangos yn ystod gêm rhwng y Cenawon ac Ebolion Rhyd-y-meirch, mae gobaith y daw’r freuddwyd yn wir i ambell un sydd ar y cae y diwrnod hwnnw. Ond i bwy?
Nid yw cael eich dewis i garfan Cymru yn fêl i gyd gwaetha’r modd, a rhaid i’r rhai dethol wynebu nifer o rwystrau a phroblemau cyn gwisgo’r crys coch â balchder.
Sut y dechreuodd y tân yn y clwb rygbi sy’n poeni Ifor Madog, a darganfod pwy ydi cariad newydd Llion sy’n cadw Tractor ac ambell un arall yn brysur.
Mae sawl dirgelwch arall i’w ddatrys hefyd: sut y collodd y dyfarnwr ei siorts a phwy ydi’r ymwelydd annisgwyl yn y gêm ryngwladol?
Mae chwarae rygbi yn bopeth i’r efeilliaid Llion a Llŷr.
