Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272036
- Awdur: Geraint Jones
- Cyhoeddi Hydref 2008
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm
Cyflwyniad, hanes, lluniau mewn lliw, achau'r teulu a gwerthfawrogiad o'r arlunydd gwerin Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn, gan Peter Lord.
Gwybodaeth Bellach:
Roedd oes Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn yn sir Gaernarfon, yn rhychwantu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei hyd, fwy neu lai. Roedd y ffermwr hwn yn nodweddiadol o'i oes, yn ymneilltuwr o argyhoeddiad, ac eto'n cowtowio i'w landlord, Sgweier Wyn, Glynllifon. Ond gellir ei ddisgrifio hefyd fel enigma, yn wir yn ŵr ecsentrig ac od yn y Gymru Gymraeg, wledig. Dyma borthmon, ffermwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr ac areithiwr dirwest a ddaeth, yn dilyn ei hanner canfed pen-blwydd, yn arlunydd (arlunydd gwlad neu arlunydd naïf fel y'i gelwir) gyda'i stiwdio ei hun yn Uwchlaw'r Ffynnon.
Yn y llyfr hwn ceir hanes bywyd a gwaith Robert Hughes, ynghyd â thros drigain o'i luniau mewn lliw a holl achau teulu lluosog Uwchlaw'rffynnon.
