[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Gwrach Mewn Strach (Cyfres Anni'r Wrach)

Product Details

  • ISBN: 9781845275815
  • Awdur: Marian Broderick, Add/Cyf gan Eleri Huws
  • Cyhoeddi Hydref 2016
  • Fformat: clawr meddal, 198x128mm, 90 tud

Dyw Anni Gwyn ddim yn hoffi'r athrawes wyddoniaeth yn Ysgol Pant-y-pwca, ond ydy hynny'n rheswm digon da i'w throi yn llygoden fawr?  Antur gyffrous arall i Anni'r Wrach!  Cyfieithiad Cymraeg o Witch in a Fix gan Eleri Huws.

Llyfr llawn hud a lledrith - a drygioni!

Dyw Anni Gwyn ddim yn hoffi'r athrawes gwyddoniaeth yn Ysgol Pant-y-pwca - ond ydy hynny'n rheswm digon da i'w throi hi'n llygoden fawr?

Gyda chlamp o lygoden fawr, flin yn rhydd, buan iawn mae Anni'n sylweddoli ei bod hi wedi gwneud camgymeriad ofnadwy.  Fydd hi'n gallu troi'r llygoden fawr yn ôl yn fenyw unwaith eto, tybed?  Fydd hi'n llwyddo i wneud hynny cyn i rywun sylweddoli ei bod hi, mewn gwirionedd, yn wrach?

At bwy y gall Anni droi am help i ddatrys ei phroblem gyda'r llygoden fawr?  Weithiau, mae hyd yn oed gwrachod yn gorfod dibynnu ar eu ffrindiau!  Antur gyffrous arall i Anni'r Wrach!