[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Hwyl y Limrigau Newydd

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845274214
  • Myrddin ap Dafydd
  • Cyhoeddi Medi 2013 
  • Fformat: Clawr Meddal, 297x210 mm, 32 tudalen
Casgliad difyr o limrigau gwreiddiol gan Geraint Lovgreen, Dorothy Jones, Arwel Pod, Dewi Prysor, Jôs Giatgoch ac eraill, ynghyd â chanllawiau ar gyfer cynnal gweithdai creu limirigau, gyda chryno-ddisg atodol yn arddangos gweithdai byw mewn tair ysgol.

Gwybodaeth Bellach:
Mae pawb o bob oed yn mwynhau doniolwch a chlyfrwch y limrig. Yn y gyfrol hon mae casgliad o limrigau newydd sbon gan rai o limrigwyr gorau Cymru yn cynnwys Geraint Lovgreen, Dorothy Jones, Arwel Pod, Dewi Prysor a Jôs Giatgoch. Bydd rhai o’r limrigau hyn yn siŵr o ymuno ar y brig gyda’r hen ffefrynnau.
Y walrws, i gael mwy o gash,
Gynhyrchodd beth trimio mwstash,
Fe lansiodd y pecyn
Mewn llong ar Gwm’strallyn
A hynny â choblyn o sblash.
Yn y gyfrol hefyd y mae nifer o syniadau er mwyn ysgogi dosbarthiadau i greu limrigau newydd eu hunain. Ar y CD-Rom mae ffilmiau o weithdai byw mewn tair ysgol gynradd – Pentreuchaf (Gwynedd), Eglwyswrw (Penfro) a Rhyd y Grug (Merthyr Tudful), gyda’r plant yn bwrw iddi i ganfod odlau, creu rhythm a chyfansoddi llinellau cyntaf er mwyn sgwennu limrigau.