[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Llangernyw, Llanrwst a Chymru

Ar Sêl! | On Sale!

Prîs | Price: £1.00

Prīs Gwreiddiol | R.R.P. £6.50






Ychwanegu i fy Rhestr Fer
Add to My Wish List

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845270162
  • Dyddiad Cyhoeddi Tachwedd 2005
  • Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst
  • Fformat: Clawr Meddal

Cyfrol i gofio am R. E. Jones (1908-1992), y bardd a'r gwr diwylliedig o Langernyw. Ceir yn y gyfrol ysgrifau a phortreadau gan amryw o awduron, yn ogystal a detholiad o gerddi gan wahanol feirdd er cof am R.E. Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd. 37 llun du-a-gwyn.

Adolygiad Gwales
Gallai tri math o berson gael ei ddenu i ddarllen y llyfr yma, a gallant oll gael blas mawr arno. Y math cyntaf fyddai’r rhai oedd yn nabod R.E. ac wedi dod dan ei ddylanwad – yn feirdd neu lenorion, yn berfformwyr, yn Bleidwyr, yn ddisgyblion ysgol neu drigolion yr ardaloedd lle bu’n byw a dysgu, sef Llangernyw, Llanrwst, Dyffryn Conwy, Cwm Penmachno a Llanberis. Yn ail, fe fyddai’r rhai na wyddent fawr mwy am R.E. Jones heblaw mai fo sgwennodd Llyfr Idiomau Cymraeg ac Ail lyfr Idiomau Cymraeg, neu’n rhyw lun o gofio llyfr ysgol â’i enw arno – Storïau ias a chyffro neu Cyfres darllen a chwarae a gyhoeddwyd yn y tridegau ond a oedd yn dal mewn bri yn y chwedegau. Y trydydd math fyddai’r sawl na chlywodd erioed am R.E. ac eto a gâi fodd i fyw o’i ddarllen.

Casgliad sydd yma o ddarnau a gyhoeddwyd o’r blaen gan fwyaf. Llais R.E. ei hun sydd yn swmp y llyfr – boed hynny fel Bob, Robat Elis neu ‘Rawbyt Ellys’ fel y mynnai’r ysgol wrth-Gymreig yn Llangernyw ei alw. Yn y bennod hwyaf, ceir atgofion o’i blentyndod a honno yw’r bennod fwyaf diddorol yn adrodd hanes bywyd gwledig tlawd di-ramant y cyfnod cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – cyfnod lle’r oedd bwyd yn ddi-amrywiaeth, lle’r oedd cerdded 14 milltir i ffair Llanrwst yn hogyn wyth oed i fod yn lladmerydd i’w fam fyddar yn gyffredin, lle’r oedd addysg Saesneg yr ysgol gynradd â 80 a mwy o blant yn llafarganu mewn tri dosbarth yn yr un ystafell yn ffordd o fyw. Teimlwn dros y plentyn ifanc yn cael cansen am ‘sbicio Welsh’ hefo’i frawd bach ac yn dysgu pethau fel ‘an isthmus is a narra nec-a-lan joining two laja poja’ heb ddeall dim ar yr hyn a adroddid.

O’r portread yn y Faner, cawn atgofion R.E. am ei waith sgwennu (funud olaf) ar gyfer y radio neu’r bywgraffiad byr ganddo. Gwerthfawrogir y galw fu arno i wasanaethu ei gymdeithas a’i ddiwylliant a theimlir yn euog am gwyno heddiw ein bod ni’n bobl brysur. Yn nheyrnged y beirdd, mewn barddoniaeth, rhaglen Eisteddfod neu atgof, daw didwylledd eu parch tuag ato a pharhad ei ddylanwad arnynt yn amlwg.

Coeth ond darllenadwy iawn yw iaith R.E. a choeth y mynegiant amdano. Llyfr gwych yn rhoi cig ar gnawd y gŵr mewn cadair olwyn welwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 1989, arloeswr Ymryson y Beirdd yn y Babell Lên. Nid bywgraffiad parchus sych mohono ond gwir godi cwr llen ar fywyd a fu.

Rhian Williams