Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description
- ISBN: 9781845272388
- Awdur: W. Arvon Roberts
- Cyhoeddi Hydref 2009
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 160 tudalen
Detholiad o ryddiaith, barddoniaeth a cherddoriaeth o hen bapurau newydd a chyfnodolion. Cyfle i gael rhyw gipolwg ar orffennol bywyd pentrefol Llŷn a'i chymeriadau amryliw, un o ardaloedd hynotaf a Cymreigaidd Cymru.
Bywgraffiad Awdur:
Brodor o Bwllheli yw W. Arvon Roberts, yn un o deulu hynafol y dref, sef teulu Siop Bach, a Siop Miss Clark, gwraig a fu’n ffigwr arbennig ynddi ei hun, ac yn berchen llynges o gychod pysgota ym Mae Ceredigion. Bu’n bostmon am ddeugain mlynedd ar arfordir gogleddol Llñn. Yn naturiol, fel un a aned ac a fu’n gweithio yn Llñn, roedd ganddo ddiddordeb mawr ym mhopeth yn ymwneud â’i fro. Yn ei amser hamdden bu’n ohebydd i’r Drych, newyddiadur Cymry America, ac yn gyfrannwr cyson am dros ddeng mlynedd ar hugain i bob un o’r papurau enwadol, a nifer o bapurau bro, yn ogystal â chylchgronau amrywiol, yn bennaf yn ymwneud â materion am Gymry America. Y mae bellach wedi ymddeol ac yn ysgrifennu pob cyfle a gaiff. Cyhoeddodd 150 Famous Welsh Americans yn 2008 ac y mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu hanes yr achos Wesleaidd yn Nefyn.
Gwybodaeth Bellach:
Ffrwyth pentyrrau o ddeunydd papur boed hen lyfrau, papurau newydd, cylchgronau neu fân bamffledi, ynghyd ag ambell bwt gwreiddiol, a’r cyfan am Lñn yw’r gyfrol hon. Cyfle i gael rhyw gipolwg ar orffennol bywyd pentrefol a’i chymeriadau amryliw, un o ardaloedd hynotaf a Cymreigaidd Cymru. Bydd o ddiddordeb i unrhyw un sy’n ymddiddori ym mywyd cefn gwlad.
