[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Llongau Tir Sych - Caelloi Cymru 1851-2011

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845273125
  • Thomas Herbert Jones
  • Cyhoeddi Mawrth 2011
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm

Disgrifiad Gwales
Mae Caelloi Cymru gystal â bod yn enw ar gymdeithas arbennig o deithwyr. Mae'r cwmni bysys hwn o bentref Dinas, gwlad Llŷn - bellach o Bwllheli - wedi bod yn trefnu gwyliau teithiol ers dros hanner canrif. Mae'n stori unigryw ac mae Herbert Jones, sydd wedi bod yn gyrru'r bysys ers y 1930au, wrth ei fodd yn adrodd yr hanes.

Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Gwybodaeth Bellach:
Hwn oedd y cwmni cyntaf i gynnig gwyliau yng Nghaerdydd i ogleddwyr yn fuan ar ôl i’r ddinas honno ennill y bleidlais i fod yn brifddinas Cymru. Hwn oedd y cwmni a roddodd y blas cyntaf ar fwydydd, golygfeydd a phrofiadau Cyfandirol i filoedd o Gymry. Boed drip i’r Sioe neu’r Steddfod, neu un o’r gwyliau mwy anturus sy’n cael eu cynnig, mae un peth yn sicr am deithiau Caelloi – bydd yno gyfeillgarwch eithriadol a hwyl fawr ymysg y teithwyr a noson lawen bob nos. Yn ogystal â mynd â Chymry ar eu gwyliau i Ewrop, roedd Ewrop yn dod i wybod am Gymru drwy gyfrwng Caelloi.

Cyn hynny, roedd bysys Caelloi yn enwog am eu tripiau undydd a’u tripiau Ysgolion Sul. Ond yn wreiddiol, cwmni cariwrs oedd Caelloi – busnes lorïau, busnes cert a cheffyl cyn hynny – ac yn y dechrau un, busnes trol a mul. Datblygodd y cwmni fu’n cludo nwyddau oddi ar longau hwyliau ar hyd ffyrdd trol glannau Llŷn i fod yn gwmni bysys yn cludo teithwyr ar wyliau moethus dros y môr.