[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Llwyau Traddodiadol

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845270339
  • Awdur: Gwyndaf Breese
  • Cyhoeddi Ebrill 2006
  • Addaswyd/Cyfieithwyd gan Esyllt Nest Roberts.
  • Fformat: Clawr Meddal, 209x147 mm, 112 tudalen

Disgrifiad a hanes y grefft o naddu llwyau gan un fu'n gweithio ac arddangos ei waith yn yr Amgueddfa Werin, Sain Ffagan am ran helaeth o'i yrfa. Ffotograffau du-a-gwyn drwy'r gyfrol, a 32 tudalen o ffotograffau lliw.

Adolygiad Gwales
Cyfeiria'r cyflwyniad i'r gyfrol Llwyau Traddodiadol gan Gwyndaf Breese at gategori 'rhy niferus i'w henwi’, ac fel un o'r rhai hynny a symbylwyd ganddo, tra oeddwn ar ymweliad â Sain Ffagan, i ymddiddori drwy gerfio dwy lwy o'r ddeubren a roddodd i mi, cyflwynaf hyn o sylwadau am y llyfr diddorol hwn.

Mewn chwe phennod gynhwysfawr ac addysgiadol mae'n mynd ati i brofi'r gosodiad 'na wnaethpwyd rhai mor amrywiol yn unman arall yn y byd'. Ymwneud y mae â chrefft y turniwr, y naddwr a'r cerfiwr wrth iddynt â'u hoffer prin gynhyrchu llwyau at ddefnydd y cartref; rhai oedd nid yn unig yn effeithiol ond yn ddeniadol hefyd. Drwy'r adrannau gwelir ei ymlyniad at y traddodiadol, a phwysleisia hyn trwy ei gofnod o hanes y grefft. Fel un a feithrinwyd gan yr Amgueddfa Werin i fod yn arbenigwr a chrefftwr medrus mae'n dwyn yr adran hon i ben mewn mesur dwfn o ofid am barhad neu ddiflaniad y traddodiadau arbennig hyn.

Yna cawn un dudalen ar bymtheg o ddarluniau lliwgar sy'n hybu a dyfnhau ein gwybodaeth a'n gwerthfawrogiad o'r traddodiad hynod hwn.

Yn dilyn yr adran hon try yr awdur ei sylw at y llwyau caru, ac mae'n ymdrin â hwy mewn cryn fanylder mewn saith adran. Anodd gwybod sut i ymdrin ag arbenigwr, mewn unrhyw faes, y purydd yn fwy felly. Gallaf werthfawrogi ei awydd i warchod y traddodiad gwneud llwyau a'i feirniadaeth o ymdrechion rhai yn troi'r traddodiadol yn llwyau caru. Af ar gefn fy ngheffyl fy hun a datgan na ellir creu llwy garu heb fod person neu bersonau arbennig yn y meddwl. Wrth werthfawrogi ymdriniaeth Gwyndaf o hanes y traddodiad arbennig yma, teimlaf rywsut ei fod wedi methu'r wefr neu'r rhamant a berthyn iddo. Wedi fy nghymell ganddo i ymddiddori yn y grefft, ffrwydrodd y diddordeb yn eu cynllunio, eu gwneud ac yn y cysylltiadau â chasgliad rhyfeddol nad yw Gwyndaf yn prin gyfeirio ato er bod rhan o'r casgliad yn Sain Ffagan ers dyddiau lorwerth Peate.

Daw ymadrodd fel 'os na wyddoch chi'n wahanol' i'r meddwl wrth ddarllen rhai gosodiadau, megis 'nad oedd yn arferiad gan y teulu brenhinol i dderbyn crefftau gwledig yn anrhegion’. Cyflwynwyd llwy i'r Dywysoges Margaret yn 1970 pan ddaeth i Landinam i ddathliadau pen blwydd y Geidiaid yn 60 oed. Un arall i dynnu sylw ato efallai yw'r cyfeiriad at Eisteddfod 1965 yng Nghasnewydd, and yn y Drenewydd yr oedd y flwyddyn honno; nid aeth yr Eisteddfod i Gasnewydd tan 1988; ac wrth sôn am werthiannau a chasgliadau cyfeiria mai yn 1999 yr oedd yr olaf, and bu dau arwerthiant yn ystod 2000 a chasgliadau o lwyau ynddynt yn ne-ddwyrain Lloegr gan Sotheby's. O brofiad gallaf gadarnhau ei feirniadaeth o rai pwyllgorau Celf a Chrefft y Genedlaethol ac agwedd rhai tuag at grefftau gwledig.

Rhaid canmol y wasg am eu gwaith destlus ac am safon a nifer y darluniau lliw, ond tybed a fuasai eu lleoli yn dilyn Adran 6 yn well? Trueni fod tueddiad i'r tudalennau ddod yn rhydd os agorir y llyfr i'w eithaf, and rhaid cydnabod fod y pris yn rhesymol iawn. Yn fy marn i, mae'r gyfrol hon yn ychwanegiad cyfoethog i ‘Gyfres y Grefft'.

E. Ffestin Williams