[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Llyfrau Llafar Gwlad: 70. Casglu Straeon Gwerin yn Eryri

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

Awdur: John Owen Huws
Dyddiad Cyhoeddi Ebrill 2008
Fformat: Clawr Meddal, 208x148 mm, 132 tudalen

Cynhwysa'r gyfrol hon ragymadrodd John Owen Huws i'w draethawd MA ar Straeon Gwerin Ardal Eryri. Mae'n batrwm y gellid ei ddefnyddio mewn ardaloedd eraill o Gymru.

Adolygiad Gwales
Braint a phleser pur i mi oedd cael bod ymysg cefnogwyr Llafar Gwlad ym Mhlas Tan-y-bwlch, Maentwrog, ar Galan Mai eleni, i ddathlu cyhoeddi canfed rhifyn y cylchgrawn difyr, poblogaidd ac addysgiadol hwn. Braint hefyd oedd cael cwmni teulu’r diweddar John Owen Huws, awdur y gyfrol fechan gyfoethog hon, a fu farw’n annhymig rhyw saith mlynedd yn ôl. Cafwyd yno chwerthin a dawnsio, anerchiad difyr gan yr Athro Gwyn Thomas, a chyfle i brynu dwy gyfrol ysblennydd JOH ar Straeon Gwerin Eryri, ynghyd â’r gyfrol werthfawr hon, y cyfan yn ffrwyth ymchwil ar gyfer ei draethawd MA ’nôl ym 1975, pan oedd MA yn radd go iawn gan Brifysgol sydd bellach wedi ei difa ei hun.

Mewn gwirionedd, ei ragymadrodd i’w draethawd ydi’r gyfrol (rhif 70 yn y gyfres ardderchog Llyfrau Llafar Gwlad), ond peidied neb â meddwl am eiliad mai rhyw gyfrol sych ac academaidd yw hi – dim byd o’r fath! Mae’n ddifyr, yn ddarllenadwy ac yn agoriad llygad i’r fath gyfoeth, a’r amrywiaeth cyfoeth, sydd wrth ein traed.

Yr ardal dan sylw ydi Eryri yng Ngwynedd, ardal sy’n ymestyn o Gonwy yn y gogledd-ddwyrain i Benmachno yn y de, a hyd at gopaon yr Eifl osgeiddig yn y de-orllewin, cantrefi Arllechwedd ac Arfon, a chwmwd Nant Conwy, ardaloedd cyfoethog iawn eu llên gwerin.

Yr elfennau a rydd wychder unigryw i’r gyfrol hon ydi’r cyfuniad amlwg o ddidwylledd, brwdfrydedd a chariad diamheuol yr awdur at ei bwnc ar y naill law, a’i allu dadansoddol, craff ar y llall. Cawn eglurhad llawn o’r gwahaniaeth rhwng stori a chwedl, a chysylltiadau’r naill fel y llall â’r hen wyliau Cymreig megis y Calan, yr Wylnos, Glangaea a’r Nadolig.

Ond mae golygon yr awdur yn fyd-eang, yn ein cysylltu â gwledydd eraill, yn Geltaidd ac Ewropeaidd, ac yn pwysleisio dro ar ôl tro pa mor gyfoethog ydi’n llên gwerin ni’r Cymry, a pha mor hanfodol ydyw fel rhan o’r darlun byd-eang. Ac mae o mor gyfarwydd â bywyd ac arferion gwerin Cymry’r tair canrif ddiwethaf. Ceir yn ei gyflwyniad rhyw dinc pendant o hiraeth am yr hyn a fu, am yr hen amser difyr gynt.

Mae ei ymchwil yn syfrdanol o drwyadl, y ffynonellau ysgrifenedig yn gyflawn, a hanes y cofnodwyr, o Siôn Wynn o Wydir hyd at Garneddog a Myrddin Fardd diweddarach, ac Amgueddfa Werin Cymru ein dyddiau ni. Wedi darllen y gyfrol ryfeddol hon, allwn i ddim peidio â phrynu’r ddwy gyfrol fawr, Straeon Gwerin Eryri. Rwy’n cael blas i’w ryfeddu arnynt.

Fel yn llawer o’r hen chwedlau, daeth y diawl yntau i chwarae mig ag un paragraff yn arbennig (paragraff olaf tudalen 92), pan drodd ‘ci’ yn ‘ei’, ‘roedd’ yn ‘reodd’, ‘astudiaethau yn ‘asutidaethau’ a ‘nodi’ yn ‘ondi’. A hynny, ar fy ngwir, ynghanol truth dicllon Glasynys ar ‘y dosbarth gwadu popeth, a hwy wadent eu neiniau pe gallent’. Byddai John yn siŵr o fod wedi chwerthin yn galonnog!

Geraint Jones