[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Maldwyn (Cyfres Bröydd Cymru: 15)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

ISBN: 9780863818332
Awdur: Cyril Jones
Cyhoeddi Gorffennaf 2003
Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 120 tudalen

Cyfeirlyfr diddorol i gyfoeth ac amrywiaeth ardal Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meifod a'r Gororau 2003, yn cynnwys gwybodaeth am hanes a diwylliant, byd natur a diwydiant, llenyddiaeth a chrefydd, adeiladau a chymeriadau nodedig y fro. 38 ffotograff du-a-gwyn a 4 map.

Adolygiad Gwales
Dwylo i fyny pawb sy’n meddwl eu bod nhw’n nabod sir eu magwraeth yn dda iawn. Cyn imi ddarllen y gyfrol Maldwyn gan Cyril Jones, mae’n bosib y byddwn innau wedi codi fy llaw ond wrth imi fodio tudalennau y bymthegfed gyfrol yn y gyfres Broydd Cymru mi ddes i i sylweddoli cyn lleied o’n i’n ei wybod am Faldwyn mewn gwirionedd.

Wrth reswm mae’r gyfrol hon, fel y gweddill yn y gyfres, yn mynd i apelio’n bennaf at y sawl sydd un ai â diddordeb cyffredinol mewn hanes neu sydd â diddordeb penodol yn y sir dan sylw. Mae’n weddol amlwg mai i’r garfan olaf dwi’n perthyn! Cyhoeddwyd y gyfrol gan Wasg Carreg Gwalch ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod eleni.

Mae adnabyddiaeth Cyril o Faldwyn yn anhygoel – cyfuniad, dybia i, o brofiad personol a gwaith ymchwil trylwyr. Yn ôl y rhagair, y nod oedd ‘cyflwyno bro arbennig, ei phwysigrwydd ar lwybrau hanes, ei chyfraniad i ddiwylliant y genedl, ei phensaernïaeth, ei phobl a’i phrif ddiwydiannau, gyda’r prif bwyslais ar yr hyn sydd yno heddiw a’r mannau sydd o ddiddordeb i ymwelwyr, boed yn ystod yr Eisteddfod neu ar ôl hynny’.

Mae angen cyfrol fel hon ar Faldwyn yn fwy na’r un sir arall gan ei bod yn sir ddieithr i gynifer o bobl a’r anwybodaeth yn ei chylch yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl Cymru yn meddwl ei bod yn ddiffeithwch o ran iaith a diwylliant – ‘ti’n dod o fan’na ac yn siarad Cymraeg!’ Petawn i ’di cael punt am bob tro glywais i’r frawddeg yna mi faswn i’n filiwnydd! Wedi dweud hynny, mae hon yn gyfrol ar gyfer pobl Maldwyn, hefyd neu hwyrach mai pobl Baldwin ddyliwn i ddweud gan mai boi o’r enw Baldwin de Boulders oedd tarddiad yr enw Maldwyn mae’n debyg – tydi Mwynder Baldwin ddim yn swnio cystal rywsut!!

Mae Cyril yn mynd â ni ar daith o amgylch y sir – taith hamddenol sy’n aros bob hyn a hyn i roi pytiau difyr o bob math inni am y gwahanol ardaloedd – gan ddechrau yn nyffryn Dyfi a theithio trwy ddyffryn Hafren, yna Twymyn, Iaen, Carno, Rhiw-bechan a dyffryn Tanat, gan gadw’r gornel orau tan yr olaf wrth gwrs, sef dyffryn Banw a dyffrynnoedd Efyrnwy a Chain! Ac i gloi, wrth reswm, roedd yn rhaid cael pennod fach ar y blygien, y dafodiaith a’r mwynder.

Mae hi’n sir gyfoethog dros ben – a does a wnelo’r cyfoeth hwnnw ddim ag arian! Ar ôl darllen y gyfrol roeddwn yn teimlo hyd yn oed yn fwy balch fy mod yn un o bobl Maldwyn – Baldwin de Boulders neu beidio! Diolch i Cyril am gyfrol ddifyr a hynod o ddiddorol. Mae’r lodes yma’n meddwl bod o’n gythgiam o lyfyr dë!

Linda Healy