[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Melangell - Ffrind y Sgwarnog (Cyfres Merched Cymru 6)

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9781845273163
  • Awdur: Siân Lewis
  • Cyhoeddi Chwefror 2012
  • Darluniwyd gan Peter Stevenson
  • Addas i oed 9-11 neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Caled, 196x128 mm, 32 tudalen

Pwy yw Melangell, a beth sydd mor arbennig amdani? Pam deithiodd y dywysoges ifanc hon yr holl ffordd dros y môr o Iwerddon i dreulio bywyd syml a thlawd mewn cwm unig yng Nghymru? Sut oedd hi'n gallu amddiffyn creaduriaid rhag gelynion cas heb ddefnyddio trais? Pwy'n well i adrodd ei hanes na'r sgwarnog a achubwyd gan Melangell rhag i'r Tywysog Brochfael Ysgithrog ei lladd.

Gwybodaeth Bellach:
Daeth Melangell yn santes y creaduriaid bychain yn sgil ei charedigrwydd tuag atynt. Cofiwn amdani yn eglwys Pennant Melangell ym Maldwyn.