[neidio i'r prif gynnwys | skip to main content]

Melinau Gwl‚n - Crynodeb o Hanes y Diwydiant Gwl‚n yng Nghymru

Manylion a Disgrifiad y Llyfr | Book Details & Description

  • ISBN: 9780863819889
  • Awdur: J. Geraint Jenkins
  • Cyhoeddi Mehefin 2005
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 96 tudalen

Cyfrol ddarluniadol hynod ddifyr yn olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru o'r Oesoedd Canol hyd flynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif, gan arbenigwr ym maes astudiaethau crefftau gwledig. 101 llun lliw, 42 llun du-a-gwyn ac 1 map. Mae fersiwn Saesneg ar gael.

Adolygiad Gwales
Roedd penderfyniad Gwasg Carreg Gwalch i ddewis Melinau Gwlân yn destun i’r gyfrol gyntaf yng Nghyfres y Grefft yn deyrnged i’r holl waith arloesol a wnaeth J. Geraint Jenkins dros y blynyddoedd yn olrhain hanes y diwydiant gwlân yng Nghymru. Amserwyd ei chyhoeddi i gyd-ddigwydd ag ailagor Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach-Felindre yn sir Gaerfyrddin, amgueddfa y chwaraeodd ef ran allweddol yn ei hanes.

Gelwir hi yn grynodeb i ddechrau ac yna yn addasiad, sy’n achosi rhywfaint o grafu pen, ond cymerir yn ganiataol mai cynnyrch un person, Megan Jones, yw’r llyfr atyniadol hwn. Mae’n anodd deall, serch hynny, pam yr esgeuluswyd dweud mai cyfrol Saesneg J. Geraint Jenkins, curadur Amgueddfa Diwydiant a Môr Cymru cyn iddo ymddeol, The Welsh Woollen Industry (Caerdydd, 1969), yw sylfaen y testun.

Gyda hynny o ragymadrodd, camp nid ansylweddol oedd gofalu, mewn cyfrol 96 o dudalennau, a honno’n cynnwys cymaint ag 148 o luniau a chyfran uchel ohonynt yn rhai lliw, am esbonio’n drefnus a diddorol hanes esblygiad y diwydiant gwlân yng Nghymru. Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, am y tro cyntaf yma, trowyd at yr olwyn ddŵr i gael egni i weithio peiriant pannu mewn adeilad ar wahân i’r cartref. Cyrhaeddodd diwedd y ddeunawfed ganrif cyn dyfeisio peiriannau newydd, ar gyfer cribo, nyddu a gwehyddu yn arbennig, i ehangu’r defnydd o’r olwyn, a darganfod ffyrdd newydd o greu ynni i gymryd ei lle. Y canlyniad fu gweddnewid y diwydiant. Mewn byr amser, yn nhermau hanes, trosglwyddwyd gweithgarwch a gyfyngwyd yn bennaf i’r cartref i un a gynhaliwyd mewn ffatrïoedd enfawr yn cyflogi miloedd. Yn baradocsaidd, roedd elfennau o’r dechnoleg newydd yn ddigon hyblyg i alluogi dyn ar ei ben ei hun, gydag ychydig o gymorth achlysurol, i gynnal ffatri fach yng nghefn gwlad.

Mi fyddai wedi bod yn werth sôn, hwyrach, am y Cymro, Richard Roberts (1789-1864) o Lanymynech, dyfeisiwr byd enwog a hybodd awtomeiddio peiriannau nyddu a gwehyddu (gw. Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, tt. 821-2).

D.G. Lloyd Hughes